Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/09/2020 - Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd (eitem 7)

7 CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - NEWID DEFNYDD CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL, SAFLEOEDD CYFLOGAETH AC UNEDAU MANWERTHU pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi

Cynllunio ar y Cyd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn rhoi cyd- destun y CCA a gosod allan y camau nesaf. Esboniwyd y broses o baratoi’r CCA, a bod diwygiadau  wedi ei wneud yn dilyn cyflwyno’r fersiwn drafft cychwynnol o’r Canllaw i’r Panel. Amlygwyd bod y newidiadau yma wedi ei wneud yn dilyn trafodaethau mewnol. Gosodwyd allan y diwygiadau fel isod.

·         Diwygio rhannau sydd yn cyfeirio at y polisïau perthnasol a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb rhwng y Canllaw a’r Polisïau;

·         Ychwanegu eglurder o ran colli defnydd cyfleuster cymunedol sydd ddim yn ddefnydd masnachol a’r wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno;

·         Ychwanegu eglurder o ran y wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno wrth ystyried addasrwydd ceisiadau ar gyfer defnyddiau ategol ar safleoedd cyflogaeth.

 

Materion a godwyd:

·         Holwyd pam fod para 4.5 (Canol Trefi) yn gofyn fod yr eiddo wedi bod ar y farchnad am bris gwerthu neu bris rhent rhesymol am gyfnod o chwe mis ond yn para 4.6 (mewn pentrefi) bod y gofyn yn deuddeg mis.

 

Ymateb:

·         Esboniwyd fod y gofyn yma yn deillio o’r polisïau yn y CDLl a bod o ddim yn bosib newid hynny trwy’r CCA.

 

Penderfyniad

Cymeradwywyd rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus.