Cyflwyno
adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi
Cynllunio ar y
Cyd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd
rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus.
Cofnod:
Cafwyd cyflwyniad gan
Heledd Jones yn rhoi cyd- destun y CCA a gosod allan y camau nesaf. Esboniwyd y
broses o baratoi’r CCA, a bod diwygiadau
wedi ei wneud yn dilyn cyflwyno’r fersiwn drafft cychwynnol o’r Canllaw i’r
Panel. Amlygwyd bod y newidiadau yma wedi ei wneud yn dilyn trafodaethau
mewnol. Gosodwyd allan y diwygiadau fel isod.
·
Diwygio rhannau sydd yn
cyfeirio at y polisïau perthnasol a gynhwysir o fewn y CDLl
ar y Cyd er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb rhwng y Canllaw a’r Polisïau;
·
Ychwanegu eglurder o ran
colli defnydd cyfleuster cymunedol sydd ddim yn ddefnydd masnachol a’r
wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno;
·
Ychwanegu eglurder o ran y
wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno wrth ystyried addasrwydd ceisiadau ar gyfer
defnyddiau ategol ar safleoedd cyflogaeth.
Materion a godwyd:
·
Holwyd
pam fod para 4.5 (Canol Trefi) yn gofyn
fod yr eiddo
wedi bod ar y farchnad am bris gwerthu neu bris rhent rhesymol am gyfnod o chwe mis ond
yn para 4.6 (mewn pentrefi) bod y gofyn yn deuddeg mis.
Ymateb:
·
Esboniwyd
fod y gofyn yma yn deillio
o’r polisïau yn y CDLl a bod o ddim yn bosib
newid hynny trwy’r CCA.
Penderfyniad –
Cymeradwywyd
rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus.