8 Cais Rhif C20/0046/42/LL - Tir Ger Fynwent Gyhoeddus Nefyn, Nefyn, LL53 6EG PDF 329 KB
Cais ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i ffurfio rhan o estyniad i fynwent presennol ynghyd a gwaith i estynnu maes parcio presennol, creu llwybrau a chodi ffensiau/giataiau cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu y cais
1.
Rhaid cychwyn ar y datblygiad
y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn
dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
2.
Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei
diwygio wedi ei gynnwys ar
y dyfarniad cynllunio hwn.
3.
Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn: • lleiafswm o 50 metr i ffwrdd
o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu
darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu
fod mewn dŵr sy’n sefyll,
a gwaelod y bedd fod yn uwch
na'r tabl dŵr lleol.
4.
Ni chaniateir i ddŵr wyneb
a / neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus.
5.
Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbl unol fel y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig
cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma.
Cofnod:
a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
creu estyniad rhesymol i’r fynwent
bresennol drwy newid defnydd tir
amaethyddol sydd wedi ei leoli
oddi ar Ffordd
Dewi Sant yn Nefyn. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu
allan, ond yn gyfochrog i
ffin datblygu Nefyn wrth gefn
y Parc Busnes. Ystyriwyd fod lleoliad, maint
a gosodiad yr estyniad yn un
rhesymegol ac y byddai’n ychwanegu at wasanaeth cymunedol presennol yn effeithiol.
Gyda materion
dwr daear wedi eu datrys, ystyriwyd fod
y bwriad hwn yn cydymffurfio gyda holl ystyriaethau
a pholisïau cynllunio perthnasol.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio
i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod;
1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad
y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn
dim hwyrach na
PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.
2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn
llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau
a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau
eraill gyda'r cais, os nad
oes amod(au) sy'n ei
diwygio wedi ei gynnwys ar
y dyfarniad cynllunio hwn.
3. Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn: • lleiafswm o 50 metr i ffwrdd
o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu
darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu
fod mewn dŵr sy’n sefyll,
a gwaelod y bedd fod yn uwch na'r tabl
dŵr lleol.
4. Ni chaniateir
i ddŵr wyneb a / neu ddraeniad
tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus.
5. Rhaid cwblhau'r lle parcio ceir yn gwbl unol fel y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig
cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma.