DIWEDDARIAD AR GROWTH TRACK 360
Cyflwyniad
gan Cyng. Louise Gritting a’r Cyng. Ian Roberts, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
Growth Track 360
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ian Roberts– Cyngor Sir y Fflint.
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
diweddariad manwl ar y gwaith ar
cynigion sydd i’w hystyried. O ganlyniad i’r gostyngiad
sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod y cyfnod
clo, amlygwyd bod rhaid ystyried ffyrdd newydd o weithio gan sicrhau
bod y cynlluniau yn addas i bwrpas.
Pwysleisiwyd, os na ellid
sicrhau mynediad at drenau cyflym, bydd hyn yn
anfantais sylweddol i Ogledd Cymru.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd bod y wybodaeth yn drylwyr ac yn cynnwys
nifer o faterion cadarnhaol
·
Bod angen gwell eglurhad a dealltwriaeth o’r mathau
o drenau fydd yn cael eu defnyddio
·
Pryder
nad yw Gogledd
Cymru yn rhan o drafodaethau ar gyfyngiad mewn
nifer y teithiau i mewn
i Fanceinion - o ganlyniad, Gogledd Cymru yn debygol
o golli allan ar wasanaethau i’r Maes Awyr
ac i Orsaf Piccadilly
·
Bod rhaid cael gwell adnoddau
yng Nghaer os am gael mwy
o drenau ar draws Gogledd Cymru
·
Bod angen ychwanegu gwydnwch i’r rhestr –
llifogydd a thirlithriadau rheolaidd yn achosi problemau mewn rhai ardaloedd