6 YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH PDF 503 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â
gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y
cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle
amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi 2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet
yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNIAD
Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion
adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i
gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr
i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497, ar 1 Medi
2023, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Cynllun Strategol y Cyngor yn amlygu fod angen i ddisgyblion Gwynedd dderbyn
addysg o’r radd flaenaf ac o fewn y lleoliadau gorau posib. Amlygwyd fod Ysgol Treferthyr bellach yn adeilad anaddas ac y buasai yn
aneconomaidd i barhau yn yr un adeilad. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd fod y
penderfyniad yn gofyn i adleoli’r ysgol mewn safle amgen.
Nododd y Pennaeth Adran ei bod yn gyffroes i
gyflwyno’r argymhelliad i fuddsoddi yng Nghricieth a bod y Cyngor, drwy’r cynllun hwn, yn
manteisio ar arian Band B o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Llywodraeth.
Derbyniwyd cefndir yr adroddiad gan y
Swyddog Addysg dros Dwyfor a Meirionydd gan dynnu sylw ar y mater fod Ysgol
Llanystumdwy bellach wedi tynnu allan o’r trafodaethau. Mynegwyd fod trafodaeth
wedi ei gynnal ar leoliad addas i’r ysgol a thynnwyd sylw at y safle sydd yn
cael ei ffafrio. Amlygwyd fod gofyn i gynyddu capasiti’r
ysgol i 150 ac mae hynny yn dilyn gwersi a ddysgwyd yn dilyn agor ysgolion
newydd sef fod nifer y plant yn dueddol o godi ym mlynyddoedd cyntaf ysgol
newydd.
O ran y gyllideb, nodwyd fod y cais
gwreiddiol am £4.97m ond rhagwelir y bydd y cais yn codi i £5.4m gan fod angen
am ofod ychwanegol ar gyfer yr Uned ABC ac anhwylder iaith a fydd yn cynyddu
cyllideb y prosiect.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun yn un cyffroes sydd a’i
fod yn newyddion cadarnhaol i’r dyfodol.
¾ Amlygwyd ychydig o heriau o ran y lleoliad i fywyd gwyllt a
phwysleisiwyd yr angen i weithredu i gadw’r bywyd gwyllt yno. Pwysleisiwyd yn
ogystal y nifer isel o blant sy’n byw o fewn ardal yr ysgol newydd a holwyd am
sut y bydd y plant yn teithio i’r ysgol. Mynegwyd y bydd yr adran yn comisiynu
gwaith pellach i edrych i mewn i lwybrau amgen i’r ysgol.
¾
Holwyd
o ran yr hen safle os bydd yn cael ei gynnig i’r gymuned. Mynegwyd y bydd
edrych i weld os bydd gan y Cyngor ddefnydd i’r tir cyn ei gynnig i’r gymuned. g
it to the community.
Awdur: Garem Jackson