7 COD GWIRFODDOL AR GYFER RHEOLAETH O ARWYDDION AR OSOD YM MANGOR PDF 105 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau
canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth
arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref
2018.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Griffith.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau
canlyniad y gwaith monitro a llwyddiant y Cod Gwirfoddol ar gyfer rheolaeth
arwyddion ar osod ym Mangor, a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar y 16 o Hydref
2018.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn anodd credu fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers
cyhoeddi’r Cod Gwirfoddol mewn ardaloedd ym Mangor. Mynegwyd fod yr adroddiad
yn dilyn cyfnod monitro. Mynegwyd fod y
cynllun wedi bod yn llwyddiant a bod yr adran yn parhau i ymateb i rai cwmnïau.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd i’r adran am eu gwaith a diolchwyd i gwmnïau Bangor am
weithredu yn unol â’r Cod Gwirfoddol. Holwyd yn yr hir dymor gyda chwmnïau
newydd yn cael ei greu sut mae’r adran yn ymateb i’r cwmnïau rhain. Nodwyd fel
arfer unwaith mae’r adran yn ymwybodol o’r cwmni newydd maent yn codi
ymwybyddiaeth o’r cod ac yn cydweithio gyda’r cwmnïau yma.
¾
Diolchwyd
i’r cwmnïau am fod mor barod i gyd-weithio a phwysleisiwyd fod hyn yn dangos be all ddigwydd os sgwrs yn
cael ei gynnal a chwmnïau
Awdur: Gareth Jones