12 RHAGLEN CYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 60 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
¾
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
(sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
¾
Cymeradwywyd i ariannu addasiadau a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau gwerth cyfanswm o £3,646,000 o 2019/20,
·
lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca,
·
cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau,
·
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,
·
cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw,
·
dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a
·
cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
¾ Derbyniwyd yr adroddiad
ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
¾ Cymeradwywyd i ariannu
addasiadau a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o
£3,646,000 o 2019/20,
·
lleihad o £558,000 mewn defnydd o fenthyca,
·
cynnydd o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau,
·
dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,
·
cynnydd o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,
·
dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a
·
cynnydd o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif
ddiben yr adroddiad yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ac i gymeradwyo’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Ategwyd fod effaith Covid i’w
gweld ar y rhaglen cyfalaf gyda dim ond 13% o’r gyllideb wedi ei wario hyd
ddiwedd Awst.
Pwysleisiwyd fod y Cyngor a chynlluniau
pendant mewn lle i fuddsoddi tua £44m eleni gyda £17m wedi ei ariannu drwy
ddenu grantiau penodol. Mynegwyd fod £9.4miliwn yn cael ei ragweld i lithio
eleni i’r flwyddyn ganlynon ond na fydd unrhyw golled ariannol. Nodwyd y
grantiau ychwanegol y llwyddwyd i’r ddenu a oedd yn cynnwys £2.3m mewn Grant
Digartrefedd Gwedd II, £2.2m Grant Ysgolion Ganrif 21 a £1.3m Grantiau o’r
Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Teithio Llesol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Tynnwyd sylw at y Grant Ysgolion gan fynegi fod yr arian hwn at
adnewyddu un o ysgolion uwchradd y sir. Pwysleisiwyd pwysigrwydd prosiectau o’r
math yma i sicrhau cefnogaeth i bobl ifanc.
¾ Amlygwyd fod £100m o arian cyfalaf dros y 3 blynedd ariannol 2020/21 –
2022/23 yn sylweddol ac mae prosiectau yn llithro i’w disgwyl eleni. Nodwyd
balchder fod cymaint o fuddsoddiad o fewn y sir.
Awdur: Ffion Madog Evans