13 STRATEGAETH CYLLIDEB 2021-22 PDF 47 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd
y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol
yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22,
bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn amlinellu trefnu llunio cyllideb 2021/22 yng nghyd-destun
anghyffredin eleni. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn adnabod anghenion
gwario 2021/22 fel arfer ac y bydd bidiau am adnoddau ychwanegol yn dod ger
bron y Cabinet cyn bo hir.
Ers rhyddhau’r’ rhaglen mynegwyd ei bod wedi
dod yn glir y bydd y Llywodraeth ddim yn cyhoeddi ‘Cyllideb’ hydrefol ond y
bydd y Trysorlys yn cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr un flwyddyn. Nodwyd
fod y Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi setliad drafft awdurdodau lleol yn
Rhagfyr, ar setliad terfynol ym mis Mawrth. Ategwyd fod yr amserlen hon yn
heriol i awdurdodau lleol ac y bydd cyfnod estynedig o ansicrwydd ariannol. Er
hyn, mynegwyd y bydd y Cyngor yn cychwyn o sylfaen gyllidol gymharol gadarn.
Amlinellwyd y rhestr ‘dwsin dieflig’ o
faterion ariannol ansicr mae’r Cyngor yn ei wynebu a oedd yn cynnwys effaith Covid, ardrawiad Brexit a
thueddiad chwyddiant prisiau. Mynegwyd fod y cynllunio ariannol am fod yn hynod
heriol gan ymhelaethu y gall y bwlch cyllideb fod hyd at £8m, er hyn y dylai
sylfaen gadarn Gwynedd ganiatáu i ni ‘bontio’ yn y tymor byr.
Argymhellwyd y bydd y Cyngor yn awyddus i
osgoi ystyriaeth ddiangen o restrau arbedon a thoriadau yn ystod ail don o’r pandemig ac os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb
2021/22 am y tro. Argymhellwyd i’r Cyngor ystyried defnyddio cyllidebau a
chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau ac i gynyddu’r Dreth Cyngor
3.5%.
Nodwyd yn y tymor hir y bydd angen
ailgyflenwi’r cronfeydd wrth gefn fel eu bod ar gael i’r dyfodol. Mynegwyd pan
fydd llai o ansicrwydd bydd modd sefydlu cynlluniau i’r tymor canolig. Amlygwyd
amserlenni adroddiadau i’r Cabinet gan nodi y bydd cyfres o seminarau
ymgynghori ag aelodau am gael eu cynnal ym mis Ionawr yn rhithiol. Amlinellwyd
yr amserlen i osod y gyllideb.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd ei bod yn gyfnod ansicr i gyllidebu ar gyfer y dyfodol.
¾ Amlygwyd pwysigrwydd seminarau Ionawr i’r aelodau, gan ei fod yn gyfle i
aelodau roi eu barn ar y gyllideb.
¾ Nodwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa cymharol gryf, oherwydd ei sylfaen
gadarn, i brynu amser.
¾ Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith.
Awdur: Ffion Madog Evans