Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Cabinet (eitem 13)

13 STRATEGAETH CYLLIDEB 2021-22 pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlinellu trefnu llunio cyllideb 2021/22 yng nghyd-destun anghyffredin eleni. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn adnabod anghenion gwario 2021/22 fel arfer ac y bydd bidiau am adnoddau ychwanegol yn dod ger bron y Cabinet cyn bo hir.

 

Ers rhyddhau’r’ rhaglen mynegwyd ei bod wedi dod yn glir y bydd y Llywodraeth ddim yn cyhoeddi ‘Cyllideb’ hydrefol ond y bydd y Trysorlys yn cynnal Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr un flwyddyn. Nodwyd fod y Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi setliad drafft awdurdodau lleol yn Rhagfyr, ar setliad terfynol ym mis Mawrth. Ategwyd fod yr amserlen hon yn heriol i awdurdodau lleol ac y bydd cyfnod estynedig o ansicrwydd ariannol. Er hyn, mynegwyd y bydd y Cyngor yn cychwyn o sylfaen gyllidol gymharol gadarn.

 

Amlinellwyd y rhestr ‘dwsin dieflig’ o faterion ariannol ansicr mae’r Cyngor yn ei wynebu a oedd yn cynnwys effaith Covid, ardrawiad Brexit a thueddiad chwyddiant prisiau. Mynegwyd fod y cynllunio ariannol am fod yn hynod heriol gan ymhelaethu y gall y bwlch cyllideb fod hyd at £8m, er hyn y dylai sylfaen gadarn Gwynedd ganiatáu i ni ‘bontio’ yn y tymor byr.

 

Argymhellwyd y bydd y Cyngor yn awyddus i osgoi ystyriaeth ddiangen o restrau arbedon a thoriadau yn ystod ail don o’r pandemig ac os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2021/22 am y tro. Argymhellwyd i’r Cyngor ystyried defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau ac i gynyddu’r Dreth Cyngor 3.5%.

 

Nodwyd yn y tymor hir y bydd angen ailgyflenwi’r cronfeydd wrth gefn fel eu bod ar gael i’r dyfodol. Mynegwyd pan fydd llai o ansicrwydd bydd modd sefydlu cynlluniau i’r tymor canolig. Amlygwyd amserlenni adroddiadau i’r Cabinet gan nodi y bydd cyfres o seminarau ymgynghori ag aelodau am gael eu cynnal ym mis Ionawr yn rhithiol. Amlinellwyd yr amserlen i osod y gyllideb.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd ei bod yn gyfnod ansicr i gyllidebu ar gyfer y dyfodol.

¾  Amlygwyd pwysigrwydd seminarau Ionawr i’r aelodau, gan ei fod yn gyfle i aelodau roi eu barn ar y gyllideb.

¾  Nodwyd fod y Cyngor mewn sefyllfa cymharol gryf, oherwydd ei sylfaen gadarn, i brynu amser.

¾  Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu gwaith.

 

Awdur: Ffion Madog Evans