5 BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS - CYNNYDD AR WIREDDU'R CYNLLUN LLESIANT PDF 365 KB
I ystyried
yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn diweddaru’r aelodau ar
gynnydd y ffrydiau gwaith. Ategwyd bod hyn yn statudol o dan y Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd bod heriau wedi codi yn sgil y pandemig, fodd bynnag gwelwyd cynnydd mewn rhai mannau.
Adroddwyd bod yr is-grwpiau
wedi ail ymafael ar eu cynlluniau gwaith ac bod y Bwrdd yn cynghori iddynt
ystyried eu briff gwreiddiol ac ystyried beth sydd wedi ei gyflawni ac beth
sydd eisoes angen ei wneud.
Aethpwyd drwy’r adroddiad yn
fanwl gan tynnu sylw at y prif bwyntiau a fyddai o ddiddordeb i aelodau’r
Pwyllgor fel a ganlyn;
- Nodwyd bod cydweithio yn
digwydd er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus, er enghraifft
mewn derbynfeydd
- Soniwyd am y gwaith sy’n
cyd-fynd a’r strategaeth tai er mwyn sicrhau mwy o gartrefi fforddiadwy yng
Ngwynedd. Ategwyd eu bod yn rhannu gwybodaeth a chydweithio er mwyn osgoi
dyblygu ar waith sydd eisoes yn digwydd.
- Ysgrifennwyd at Lywodraeth
Cymru er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd argaeledd tai i gyfrannu at lesiant
cymunedau.
- Cyfeiriwyd at waith ynghylch
newid hinsawdd, sef bod yr Is-Grŵp wedi cwrdd a Cyfoeth Naturiol Cymru a
rhannu eu datganiadau ardal.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Diolchwyd y Rheolwr Rhaglen
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am yr adroddiadau dan sylw.
- Tynnwyd sylw at yr adroddiad
sy’n trafod ‘7 cam at llesiant’ a gofynnwyd i’r rheolwr a fyddai'n bosib
atgoffa o’r rhain yn ei hadroddiad nesaf er mwyn atgoffa’r Pwyllgor o beth sydd
angen ei wneud.
- Cwestiynwyd ai tasg ar gyfer
yr adran Gynllunio yn gwerthuso safleoedd at berthynas tai i bobl leol.
- Awgrymwyd mai edrych ar
gynlluniau a gwerthuso fforddiadwyedd a pholisïau y
dylai fod yn blaenoriaeth er mwyn osgoi dyblygu gwaith.
- At berthynas ‘Newid
Hinsawdd’, rhannwyd bod gan eiddo lleol broblem gydag llifogydd ac eu bod wedi
derbyn cyngor ar gyfer ei warchod rhag difrod pellach. Gofynnwyd os byddai modd
rhannu gwybodaeth ychwanegol gyda trigolion mewn ardaloedd dan fygythiad o
lifogydd.
Mewn ymateb i’r sylwadau,
nododd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y pwyntiau isod:-
- Nodwyd mai briff yr
Is-grŵp gyda’r tai fforddiadwy oedd oedd edrych
ar datblygu ar y cyd, er enghraifft, edrych ar safleoedd segur i weld y sgôp am
eu ddatblygu.
- Grŵp ychwanegol
technegol wedi rhoi ystyriaeth i hyn.
- Diolchwyd am y sylwadau
ynghylch yr ffrwd Newid Hinsawdd a byddai’r sylwadau yn cael eu cyfleu yn ôl
cyn iddynt fynd allan i ymgysylltu.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.