6 TREFNIADAU TÂN GWYLLT PDF 109 KB
I ystyried
yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gryno er mwyn egluro’r trefniadau
gwaith sydd yn gysylltiedig a thân gwyllt.
Ategwyd yr Aelod Cabinet at hyn
gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd ymateb i rhybydd o gynnig a daeth o’r
cyfarfod llawn o’r Cyngor.
Eglurwyd bod gofynion statudol
yn ymwneud a gwerthiant tan gwyllt a storio’r tan gwyllt a pha mathau a
chaniateir ynghyd a chyfyngiadau sŵn a cyfnodau gwerthiant sydd yn bodoli.
Mewn perthynas a rheoleiddio,
nodwyd bod gan y Cyngor pwerau statudol yn ymwneud a sŵn, ond bod angen
tystiolaeth wedi ei gasglu dros gyfnod. Nodwyd mai’r math o bethau sy’n cael eu
cyfeirio at gyda than gwyllt yw defnydd anghymdeithasol yn fwy na sŵn
cyffredinol.
Trafodwyd rôl y Cyngor er mwyn
datrys hyn sef, cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ar defnydd da,
cydweithio a’r Gwasanaeth Tân, paratoi datganiadau i’r wasg, defnyddio
cyfryngau cymdeithasol i hybu ymarfer da (cyfeiriwyd at enghraifft yn atodiad
2). Eglurwyd bod y gyfraith yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i newid rheolau
ynghylch tan gwyllt.
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
- Croesawyd yr adroddiad ac
awgrymwyd bod angen diwygio’r cod tan gwyllt neu gosod cyfyngiadau ar
trwyddedau arwerthwyr a canllawiau pellach iddynt er mwyn osgoi defnydd
anghymdeithasol.
- Codwyd pryder bod effaith ar
anifeiliaid ffarm sy’n arwain ar adegau at niwed i eiddo pan mae gwartheg yn
cael eu dychryn.
- Gofynnwyd os fydd modd tynhau
cyfyngiadau ar werthwyr fel bod y niwed yma i anifeiliaid fferm ac eiddo yn
cael ei leihau.
- Ategwyd bod rhan fwyaf o
drigolion yn dilyn y rheolau ac y lleiafrif sy’n anghymdeithasol ac yn eu
difodd o ganol mis Hydref ymlaen ac nid ar ddiwrnod tan gwyllt yn unig.
- Gofynnwyd beth yw’r bwriad er
mwyn symud ymlaen a hyn, ac oes adroddiad ychwanegol yn dod yn ôl i’r Pwyllgor.
Awgrymwyd sefydlu is-grŵp i’w drafod sy’n cynnwys y Cynghorydd sydd wedi
rhoi y rhybydd o gynnig ymlaen.
- Anghytunwyd yn aelod bod hyn
y fater broblemus, ategwyd mai dim ond bod yn oddefgar am ychydig o wythnosau’r
flwyddyn lle mae’r tan gwyllt yn digwydd sydd angen ar bobl.
- Ategwyd bod y tan gwyllt yn
dod a llawer o hwyl i blant a phobl a bod sawl datrysiadau posib i perchenogion
anifeiliaid anwes fel eu cadw yn tŷ neu defnyddio meddyginiaeth.
- Anghytunwyd a’r sylw uchod
gan egluro bod tan gwyllt wedi datblygu erbyn hyn i fod llawer fwy swnllyd ac
yn amharu ar bobl ar raddfa uwch.
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelodau, nodwyd:-
- Bod cynghori prynwyr cyn y
digwyddiadau yn rhywbeth mae swyddogion yn ei wneud ers tro. Er mwyn gwella,
nodwyd bod modd wella hyn o ran diwygio’r canllawiau ac hefyd o ran y berthynas
sydd gennym efo’r gwerthwyr.
- Er mwyn mynd a’r adroddiad yn
ei flaen, cytunwyd i adolygu’r ddarpariaeth a thrafod a’r Cynghorydd sydd wedi
cyflwyno’r cynnig.
- Bod modd addasu a rhannu arfer da gyda gwerthwyr a defnyddwyr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6