6 CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 354 KB
AELOD CABINET: Cynghorydd
Gareth W Griffith
I ystyried yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda’r nod o godi
ymwybyddiaeth am y canllaw cynllunio atodol. Gofynnwyd i’r pwyllgor roi adborth
cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn roi
penderfyniad i’w fabwysiadu neu beidio.
Adroddwyd ar y
cynnwys ac yna tynnwyd sylw at Atodiad 2 sef fersiwn drafft cyflawn o’r Canllaw
Cynllunio Atodol sydd eisoes wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini a
Phartneriaeth, Cyngor Sir Ynys Môn.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
- Cwestiynwyd a yw’r polisi
newydd yn caniatáu safleoedd ar gyfer carafanau sefydlog yn ogystal ag rhai
teithiol
- Mynegwyd pryder ynghylch
Gor-dwristiaeth fel y gwelwyd llynedd wedi ymlacio cyfyngiadau.
- Ategwyd bod nifer uchel iawn
o safleoedd garafanau yng Ngwynedd fel y mae hi.
Mewn ymateb i
sylwadau’r aelodau, nodwyd:-
- Bod y polisi dan sylw yn
caniatáu ar gyfer carfanau teithiol newydd ynghyd a rhai sefydlog newydd cyn
belled bod y safleoedd sefydlog heb eu lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol neu’r Ardal o Dirwedd Arbennig. Nodwyd y bydd y polisïau mewn
perthynas a safleoedd carafanau yn destun y broses o adolygu’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd.
- Ar y pryder o
gor-dwristiaeth, sicrhawyd y byddai hyn yn cael ei ail-ymweld
- Ceir sawl esiampl lle mae
ceisiadau wedi cael eu gwrthod os ydynt yn groes i gynlluniau perthnasol, a bod
sgôp i wrthod datblygiadau nad ydynt yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol.
- Bod newidiadau mawr ar y
gweill ar lefel genedlaethol ynghylch cynllunio a byddai hyn yn cael ei
hystyried wrth adolygu’r cynllun.
PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.