7 Cais rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog PDF 363 KB
Cais
ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a
llefydd parcio
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gwrthod y cais ar sail:
Mae’r bwriad i drosi adeilad yn
5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly
ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o
Lifogi.
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr.
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais wedi ei
gyflwyno i bwyllgor ym mis
Medi lle gwnaed y penderfyniad i ohirio’r cais
o ganlyniad i dderbyn pryderon llifogydd ar y safle. Yn y cyfamser,
adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod i’r
Cyngor ei fod wedi cyflwyno
apêl i’r Arolygaeth yn erbyn
diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar
y cais (dyddiad cau 20/10/20).
Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor (cyfarfod Medi 10fed 2020), i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn
mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio, fe
ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Llifogydd
ac Erydiad Arfordirol. Derbyniwyd ymateb yn nodi gwrthwynebiad
oherwydd eu bod yn ymwybodol fod
cwrs dŵr yn llifo drwy’r
safle datblygu mewn cylfat, sydd
heb ei adnabod
yn y cais. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat cyn ymgymryd
ag unrhyw waith ar y safle.
Nodwyd bod tystiolaeth gref yn bodoli
bod y cwrs dŵr wedi achosi llifogydd
yn hanesyddol i lawr seler
yr adeilad presennol. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu
union lwybr a chyflwr y cylfat a pharatoi Asesiad Canlyniad Llifogydd (FCA) cyfyngedig fyddai'n ystyried a all y safle gael ei ddatblygu'n
ddiogel yn unol â TAN15. Hyd nes y cynhyrchir asesiad llifogydd derbyniol, roedd yr Uned yn
gwrthwynebu'r datblygiad ar sail risg llifogydd.
Yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law, adroddwyd
mai'r unig opsiwn fyddai argymell
gwrthod y cais.
b)
Amlygwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu ar
sail pryderon llifogydd
c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais
PENDERFYNWYD: gwrthod
y cais ar y sail bod y bwriad i drosi adeilad yn
5 fflat o fewn safle gyda hanes
o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais i
ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i
bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor
Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi.