Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 7)

7 Cais rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 363 KB

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais ar sail:

 

Mae’r bwriad i drosi adeilad yn 5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i bwyllgor ym mis Medi lle gwnaed y penderfyniad i ohirio’r cais o ganlyniad i dderbyn pryderon llifogydd ar y safle. Yn y cyfamser, adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod i’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno apêl i’r Arolygaeth yn erbyn diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad cau 20/10/20).

 

Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor (cyfarfod Medi 10fed 2020), i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio, fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. Derbyniwyd ymateb yn nodi gwrthwynebiad oherwydd eu bod yn ymwybodol fod cwrs dŵr yn llifo drwy’r safle datblygu mewn cylfat, sydd heb ei adnabod yn y cais. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar y safle. Nodwyd bod  tystiolaeth gref yn bodoli bod y cwrs dŵr wedi achosi llifogydd yn hanesyddol i lawr seler yr adeilad presennol. Cynghorwyd y datblygwr i sefydlu union lwybr a chyflwr y cylfat a pharatoi Asesiad Canlyniad Llifogydd (FCA) cyfyngedig fyddai'n ystyried a all y safle gael ei ddatblygu'n ddiogel yn unol â TAN15. Hyd nes y cynhyrchir asesiad llifogydd derbyniol, roedd yr Uned yn gwrthwynebu'r datblygiad ar sail risg llifogydd.

 

Yng ngoleuni'r wybodaeth a ddaeth i law, adroddwyd mai'r unig opsiwn fyddai argymell gwrthod y cais.

 

b)    Amlygwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu ar sail pryderon llifogydd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

PENDERFYNWYD: gwrthod y cais ar y sail bod y bwriad i drosi adeilad yn 5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o Lifogi.