9 Cais Rhif C20/0190/19/AC Seiont Brickworks, Seiont Works Ffordd Felin Seiont, Caernarfon PDF 389 KB
Cais ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig ag
adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys;
·
Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol
a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes
parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid
symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro),
·
Adeiladu ffordd cludiant newydd ar ffin ogleddol y
chwarel bresennol gyda chysylltiad dros dro i lwybr y ffordd osgoi arfaethedig,
A487 Caernarfon i Bontnewydd, yn ystod y cyfnod adeiladu,
·
Parhau i gloddio am fwynau, symud deunydd o ddyddodion
gweithio mwynau a phentwr stoc o ddeunyddiau sy’n bodoli eisoes,
·
Darparu llawr caled a lleoli offer a pheiriannau ar
gyfer prosesu a sgrinio deunyddiau,
·
Gwaredu deunyddiau gwastraff anadweithiol ar gyfer
gwaith peirianyddol/adfer yn ystod y tymor hir.
(Cais o dan Adran 73 i amrywio Amod 3 ar ganiatâd cynllunio
C17/0011/19/MW i gyrraedd y lefelau daear y cytunwyd arnynt yng nghynllun adfer
rhif. 3030/16, ddeunyddiau cloddio sydd dros ben i ofynion prosiect ffordd
osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn ogystal â deunyddiau a gloddiwyd o ffynonellau
eraill, gael eu gwaredu ar y safle yn unol â thrwydded CNC)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD - Gwrthod y cais
Mae'r bwriad yn
newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd
osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r
Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cais
C17/0011/19/MW ( a ganiatawyd
ym Mehefin 2017) yn ddarostyngedig i amodau ar
gyfer cynigion datblygu oedd yn
gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd. Amlygwyd bod y cais dan sylw
yn ceisio, o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad Thref 1990, amrywio un o’r
amodau hynny. Eglurwyd bod Amod 3 yn cyfyngu mewn
gludo deunydd gwarged o fannau eraill i’r hyn
a grëwyd gan brosiect adeiladu’r ffordd osgoi.
Eglurwyd bod Adran 73 yn galluogi
ymgeisydd i wneud cais i
ddatblygu tir heb gydymffurfio gyda'r amodau sy'n
atodol i ganiatâd cynllunio blaenorol sy’n bodoli. Dan yr adran yma gall yr Awdurdod Cynllunio
Lleol newid neu dynnu amodau,
ond ni
all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd.
Mae cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu
caniatâd cynllunio newydd ac felly mae'r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn
gyfan. Wrth benderfynu ar gais
a.73, gall yr ACLl osod amodau y tu
hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais. Er hynny, dylai'r amodau a osodwyd
ond fod yn
rhai y gellid fod wedi eu
gosod ar y caniatâd gwreiddiol. Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd
yn y cais gwreiddiol. Ymhelaethwyd ar y rhesymau pam nad oedd
swyddogion yn ystyried fod gwneud
y fath newid yn briodol drwy
gais Adran 73.
Amlygodd y Cyfreithiwr
bod yr ymgeisydd wedi rhannu gwybodaeth
/ opiniwn ychwanegol gyda’r Aelodau a bod yr ymateb swyddogion y Cyngor i’r opiniwn
hwnnw wedi ei rannu gyda’r
ymgeisydd ym mis Ebrill 2020.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelodau:
·
Pam nad
oes cais o’r newydd yn
cael ei gyflwyno?
·
Pryder
y byddai’n cael effaith ar amserlen
cwblhau'r ffordd osgoi
·
Bod angen cyflwyno cais o’r
newydd fel bod modd rheoli'r hyn
sydd yn cael
ei roi yn
y twll chwarel
ch) Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chyflwyno cais o’r newydd,
nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi cymryd
lle dros y misoedd diwethaf a bod anghytundeb barn o’r ffordd gywir ymlaen.
d) Mewn ymateb
i’r sylw ynglŷn â’r cais o bosib yn
atal gwaith o gwblhau'r ffordd osgoi, nodwyd bod y cais yn ymwneud a llenwi
twll chwarel gyda chynnyrch ac ni ddylai amharu
ar amserlen y ffordd osgoi
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rheswm bod y bwriad
yn newid graddau neu natur
y datblygiad a gymeradwywyd
yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig
yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r
Awdurdod felly yn ystyried na ddylid
newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio
Gwlad a Thref.