Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 Cais Rhif C20/0190/19/AC Seiont Brickworks, Seiont Works Ffordd Felin Seiont, Caernarfon pdf eicon PDF 389 KB

Cais ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys;

·         Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro),

·         Adeiladu ffordd cludiant newydd ar ffin ogleddol y chwarel bresennol gyda chysylltiad dros dro i lwybr y ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd, yn ystod y cyfnod adeiladu,

·         Parhau i gloddio am fwynau, symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau a phentwr stoc o ddeunyddiau sy’n bodoli eisoes,

·         Darparu llawr caled a lleoli offer a pheiriannau ar gyfer prosesu a sgrinio deunyddiau,

·         Gwaredu deunyddiau gwastraff anadweithiol ar gyfer gwaith peirianyddol/adfer yn ystod y tymor hir.

      (Cais o dan Adran 73 i amrywio Amod 3 ar ganiatâd cynllunio C17/0011/19/MW i gyrraedd y lefelau daear y cytunwyd arnynt yng nghynllun adfer rhif. 3030/16, ddeunyddiau cloddio sydd dros ben i ofynion prosiect ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn ogystal â deunyddiau a gloddiwyd o ffynonellau eraill, gael eu gwaredu ar y safle yn unol â thrwydded CNC)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD - Gwrthod y cais

 

Mae'r bwriad yn newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

           

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais C17/0011/19/MW ( a ganiatawyd ym Mehefin 2017) yn ddarostyngedig i amodau ar gyfer cynigion datblygu oedd yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd. Amlygwyd bod y cais dan sylw yn ceisio, o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad Thref 1990, amrywio un o’r amodau hynny. Eglurwyd bod Amod 3 yn cyfyngu mewn gludo deunydd gwarged o fannau eraill i’r hyn a grëwyd gan brosiect adeiladu’r ffordd osgoi.

 

Eglurwyd bod Adran 73 yn galluogi ymgeisydd i wneud cais i ddatblygu tir heb gydymffurfio gyda'r amodau sy'n atodol i ganiatâd cynllunio blaenorol sy’n bodoli. Dan yr adran yma gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu amodau, ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Mae cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly mae'r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn gyfan.  Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr ACLl osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais.  Er hynny, dylai'r amodau a osodwyd ond fod yn rhai y gellid fod wedi eu gosod ar y caniatâd gwreiddiol.  Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol. Ymhelaethwyd ar y rhesymau pam nad oedd swyddogion yn ystyried fod gwneud y fath newid yn briodol drwy gais Adran 73.

 

Amlygodd y Cyfreithiwr bod yr ymgeisydd wedi rhannu gwybodaeth / opiniwn ychwanegol gyda’r Aelodau a bod yr ymateb swyddogion y Cyngor i’r opiniwn hwnnw wedi ei rannu gyda’r ymgeisydd ym mis Ebrill 2020.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd  i wrthod y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

 

·           Pam nad oes cais o’r newydd yn cael ei gyflwyno?

·           Pryder y byddai’n cael effaith ar amserlen cwblhau'r ffordd osgoi

·           Bod angen cyflwyno cais o’r newydd fel bod modd rheoli'r hyn sydd yn cael ei roi yn y twll chwarel

 

ch)  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflwyno cais o’r newydd, nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi cymryd lle dros y misoedd diwethaf a bod anghytundeb barn o’r ffordd gywir ymlaen.

 

d)    Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â’r cais o bosib yn atal gwaith o gwblhau'r ffordd osgoi, nodwyd  bod y cais yn ymwneud a llenwi twll chwarel gyda chynnyrch ac ni ddylai amharu ar  amserlen y ffordd osgoi

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rheswm bod y  bwriad yn newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.