5 TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU PDF 701 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Bod y pwyllgor craffu o’r
farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r
trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb
Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor /
Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais yn nodi y paratowyd pecyn o’r dogfennau oedd eu
hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Nodwyd y bwriedid cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar 24 Tachwedd, 2020,
ac yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno
i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, 2020, yn argymell bod y Cyngor:-
·
Yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
fel y ddogfen sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
·
Yn cymeradwyo ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu
2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r trefniadau ar gyfer Craffu “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3”
ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
·
Awdurdodi'r Corff Atebol, Cyngor Gwynedd, i
lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.
·
Argymell cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebol
sydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym
mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).
·
Bod yr Arweinydd, mewn ymgynghoriad â'r Prif
Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod
dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel
sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
Cyn argymell i’r Cyngor wneud y penderfyniadau hyn,
roedd yn ofynnol i’r pwyllgor craffu ystyried os oedd y Cynllun Busnes, Cytundeb
Llywodraethu 2, y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel
sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.
Croesawodd y Cadeirydd yr Arweinydd, yn
rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, y Cyfarwyddwr
Portffolio a’r swyddogion eraill i’r cyfarfod, gan bwysleisio bod yr adroddiad
yn benllanw gwaith nifer o flynyddoedd o ddatblygu’r cynllun.
Yna gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais i
osod y cyd-destun a rhoi diweddariad bras o’r sefyllfa. Gofynnwyd iddo hefyd wneud sylw ynglŷn â
Wylfa B a Brexit yn ystod ei gyflwyniad.
Yn ystod ei gyflwyniad, nododd Cadeirydd y
Bwrdd Uchelgais:-
·
Y
daeth y gwaith i benllanw gyda chwblhau’r holl waith manwl a dyrys o roi’r pecyn
at ei gilydd, yn y ffurf oedd yn ofynnol ar gyfer ei gyflwyno i’r ddwy
Lywodraeth, a’i gyflwyno a’i fabwysiadu gan y Bwrdd ar 23 Hydref, 2020.
·
Bod
hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol gan y Swyddfa Portffolio, a sefydlwyd
ddechrau’r flwyddyn dan arweiniad y Cyfarwyddwr Portffolio, ac oedd yn cynnwys
tîm o swyddogion hynod o alluog a brwdfrydig, oedd yn gosod sylfaen gadarn iawn
i faterion datblygu’r economi yn y Gogledd.
·
Bod
y tîm yn cydweithio’n agos gyda thîm swyddogion datblygu’r economi Llywodraeth
Cymru, a chredid bod eraill yn edrych arnom yn y Gogledd fel esiampl o ymarfer
da.
· Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, y bu’r Pennaeth Cyllid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
7 CYTUNDEB TERFYNOL PDF 794 KB
Alwen Williams i gyflwyno y pecyn o’r dogfennau allweddol sydd eu angen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU ac Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
¾
Cymeradwywyd
cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i
Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.
¾
Cytundwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar
gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda
Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾
Cytunwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb
Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn
“Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru.
¾
Cymeradwywyd
y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i
hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner
blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd
ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau
5.5 - 5.7 o’r adroddiad).
¾
Cytunwyd
bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y
Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff
Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
¾
Cymeradwywyd
ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau
ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr
Portffolio.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.
PENDERFYNWYD
¾
Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos
Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am
Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.
¾
Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn
unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar
gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb
Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾
Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn
unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn
mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb
Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn
y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾
Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol
cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol
sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7
o’r adroddiad).
¾
Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog
Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod
dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r
cytundeb.
¾
Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa
Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i
hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Yn 2016,
mabwysiadodd partneriaid y Bwrdd Uchelgais Weledigaeth Twf ar gyfer Economi
Gogledd Cymru. Yn seiliedig ar Strategaeth y Weledigaeth Twf, yn Hydref 2018
cytunwyd ar y Cynllun Twf gan holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais drwy weithio
gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector breifat.
Yn Nhachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais
a’r ddwy Lywodraeth i Benawdau’r Telerau, gyda Chytundeb Terfynol i’w gwblhau
yn 2020.
Mae’r Bwrdd
Uchelgais wedi ymrwymo i gyrraedd Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth cyn
diwedd Rhagfyr 2020.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn garreg filltir yn nhaith y Bwrdd
Uchelgais. Tynnwyd sylw tuag at yr argymhellion oedd yn cael ei amlygu ar
ddechrau’r adroddiad. Amlygwyd yr
amserlen gan nodi fod llawer wedi digwydd o fewn y 10 mis diwethaf.
Nodwyd fod y
swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y
bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac
5 Achos Busnes Rhaglen. Mynegwyd fod yr Achos Busnes Portffolio yn amlygu’r
prif amcanion yn rhoi crynodeb o’r cynnig ariannu ar gyfer Cynllun Twf Gogledd
Cymru, ar gyfer cynnwys yn y Cytundeb Terfynol. Pwysleisiwyd fod yr achosion
busnes yn rhai byw sydd yn cael eu hadolygu yn gyson. Tynnwyd sylw at bob achos
busnes yn unigol.
Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7