8 CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER PDF 520 KB
Dafydd L Edwards i
darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter
blwyddyn ariannol 2020/21.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail
Chwarter y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2020/21.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol – Awdurdod Lletya.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail
Chwarter y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.
RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD
Mynegwyd fod angen darparu manylion y gwariant a’r
incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21 i’r Bwrdd
uchelgais ynghyd a rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb
flynyddol.
Er mwyn gweithredu’n effeithiol mae angen i’r
Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant a rhagamcan yn erbyn ei
gyllideb flynyddol gymeradwy.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi er y pandemig fod y sefyllfa gyllidebol yn dderbyniol.
Amlygwyd fod £78mil o danwariant gan nodi fod hyn yn bennaf o ganlyniad i oedi cyn penodi rhai swyddi o ganlyniad i’r
panedemig. Er hyn nodwyd ei fod yn dderbynion ac nad yw’r Bwrdd Uchelgais mewn
unrhyw drafferthion ariannol.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:
· Diolchwyd
i’r staff yr adran gyllid am ei gwaith caled.
·
Nodwyd ymwybyddiaeth o
gyllideb iach.