Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/10/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 8)

8 CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER pdf eicon PDF 520 KB

Dafydd L Edwards i darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail Chwarter y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol – Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail Chwarter y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mynegwyd fod angen darparu manylion y gwariant a’r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21 i’r Bwrdd uchelgais ynghyd a rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb flynyddol.  

           

Er mwyn gweithredu’n effeithiol mae angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant a rhagamcan yn erbyn ei gyllideb flynyddol gymeradwy.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er y pandemig fod y sefyllfa gyllidebol yn dderbyniol. Amlygwyd fod £78mil o danwariant gan nodi fod hyn yn bennaf o ganlyniad i  oedi cyn penodi rhai swyddi o ganlyniad i’r panedemig. Er hyn nodwyd ei fod yn dderbynion ac nad yw’r Bwrdd Uchelgais mewn unrhyw drafferthion ariannol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·    Diolchwyd i’r staff yr adran gyllid am ei gwaith caled.

·         Nodwyd ymwybyddiaeth o gyllideb iach.