8 CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2021/22 PDF 275 KB
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.1
Parhau i weithredu Cynllun Lleol y
Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod
2020/21. Felly, bydd yr amodau canlynol
(a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:
a) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau
gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.
b) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a
hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.
c) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith
o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.
1.2
Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud
mân addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol
cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn
cychwyn 1 Ebrill, 2021.
PENDERFYNWYD
(a) Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor
am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod 2020/21. Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod)
ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:
(i) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau
anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr
oed gweithio fel ei gilydd.
(ii) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o
ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd
yn y Cynllun Rhagnodedig.
(iii) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i
bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o
bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.
(b) Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth
Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân
addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun.