Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 17/11/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 8)
8 DATBLYGIADAU A CHEFNOGAETH I AELODAU DROS Y CYFNOD COVID AC I'R DYFODOL. PDF 452 KB
Cyflwyno diweddariad i’r
aelodau o’r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cefndir dros y cyfnod a fu.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
(a) Derbyn yr adroddiad.
(b) Cytunwyd bod angen trafodaethau ymhellach ar y ffordd ymlaen
wedi i'r aelodau leisio eu barn ar ffurf
cyfarfodydd y dyfodol.
Rhesymau:
Yn dilyn trafodaeth ar ddulliau cyfarfod
presennol ac ar gyfer y dyfodol, mynegwyd dymuniadau i weld rhai pwyllgorau
arbennig yn cwrdd wyneb i
wyneb fel bo angen.
Ystyriwyd
bod y dull presennol yn gyfleus mewn sawl
ffordd wrth arbed amser teithio
a chostau,
fodd bynnag roedd teimlad ei
bod yn hanfodol cwrdd yn gorfforol
mewn rhai achosion. Derbyniwyd y sylwadau o'r drafodaeth
agoriadol a bydd y sylwadau yn cael
eu cyflwyno i drafodaethau mewnol pellach.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
(a)
Derbyn yr
adroddiad.
(b)
Cytunwyd bod
angen trafodaethau pellach ar y ffordd ymlaen wedi i’r aelodau leisio eu barn
ar ffurf cyfarfodydd y dyfodol.
Adroddodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ar y datblygiadau a chefnogaeth sydd wedi
bod i aelodau yn ystod y cyfnod Covid-19. Dywedodd fod newid mawr wedi wynebu
aelodau ynghyd a staff y Cyngor o ganlyniad i Covid-19 a chyfyngiadau ddaeth yn
sgil y cyfnod clo. Nodwyd bod gofynion uchel wedi bod ar aelodau yn ystod y
cyfnod diweddaraf. Pwysleisiwyd pwysigrwydd hunan les a hunan ofal yn sgil y
gofynion yma.
Cyflwynwyd crynodeb
gan Arweinydd Tîm Democratiaeth yn
amlinellu'r amryw ddatblygiadau sydd wedi bod. Nodwyd bod sawl aelod o staff y
tîm wedi trosglwyddo i’r rheng flaen yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fodd bynnag
erbyn hyn roeddent wedi ail ymuno a’r tîm democratiaeth. Ymhelaethwyd gan nodi
bod ffyrdd o weithio’r tîm wedi addasu’n gyfan gwbl er mwyn hwyluso gweithio o
bell a chynnal cyfarfodydd a phwyllgorau yn rhithiol.
Wrth ymhelaethu, nododd bod nifer uchel o
gyfarfodydd rhithiol wedi digwydd. Cynhaliwyd 28 o bwyllgorau ffurfiol yn y
cyfnod hyd ddiwedd Hydref, 30 o gyfarfodydd anffurfiol gydag aelodau etholedig,
a 23 o sesiynau hyfforddiant rhithiol gydag aelodau. Yn ogystal ag hynny,
nodwyd erbyn hyn bod pob aelod etholedig wedi mynychu cyfarfod rhithiol.
Dywedodd fod ambell i nodyn
positif wedi ymddangos ers y datblygiad o gyfarfod yn rhithiol, gan bwysleisio
bod presenoldeb aelodau wedi cynyddu
ynghyd a'u parodrwydd i gyfarfod.
Rhoddwyd mwy o wybodaeth
ynghylch trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol gan y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol. Soniwyd bod trafodaethau mewnol eisoes wedi bod ar waith a
rhannwyd y pwyntiau canlynol ynghylch trefniadau’r dyfodol ar gyfer swyddogion;
- Sefydlwyd rhagdybiaeth ymysg
swyddogion y byddant yn cynnal cyfarfodydd mewnol yn rhithiol yn y dyfodol.
- Cydnabuwyd y bydd rhaid i
gyfarfodydd wyneb i wyneb ddigwydd yn achlysurol, er enghraifft ar benodiad
swyddogion newydd neu ar gyfer sgwrs anodd.
- Nodwyd fod cyfarfodydd
‘hybrid’ yn cael eu hystyried yn llai ffafriol am ei fod yn gallu bod yn
brofiad eilradd i’r rhai sydd yn ymuno o bell.
Agorwyd
y drafodaeth i aelodau’r pwyllgor leisio eu barn ar sefyllfa’r dyfodol i
aelodau.
Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth:
- Nodwyd bod angen cael
cydbwysedd rhwng cyfarfodydd rhithiol a chorfforol. Awgrymwyd rhoi ystyriaeth i
flaenoriaethu pa gyfarfodydd sydd wir angen bod yn digwydd yn gorfforol.
- Awgrymwyd bod angen gosod
rheolau ynghylch yr amser mae aelodau yn treulio o flaen sgrin o ganlyniad i
gyfarfodydd rhithiol. Nodwyd bod angen trefniadau clir ynghylch amser, osgo, a
gosodiad y cyfrifiadur er lles aelodau.
- Canmolwyd y drefn rithiol
ymysg aelodau sy’n byw yn bell o Gaernarfon gan eu bod yn arbed amser teithio,
yn well i’r amgylchedd ac yn arbed arian costau teithio i’r Cyngor. Dywedwyd
bod y drefn rithiol yn caniatáu iddynt gyflawni mwy mewn diwrnod gan nad ydynt
yn teithio am gyfnod hir.
- Awgrymwyd bod y drefn rithiol yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth gan ei bod yn haws i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8