Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 17/11/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 6)
6 CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG PDF 391 KB
Gofyn am sylwadau’r Pwyllgor
ar gyfer ymateb i Adroddiad (drafft) Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol ar gyfer 2021/22.
Penderfyniad:
(a) Derbyn yr adroddiad.
(b) Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr
aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.
Rhesymau:
Nodwyd yn yr
adroddiad fod y niferoedd sy’n hawlio’r ad-daliad am gostau personol neu gostau
gofal yn parhau i fod yn isel iawn ac felly mae angen i’r Pwyllgor hybu'r
ddarpariaeth.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
(a) Derbyn yr adroddiad.
(b) Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr
aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.
Cyflwynodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ei hadroddiad gan ofyn am sylwadau gan
aelodau’r pwyllgor er mwyn ffurfio ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 23ain o
Dachwedd.
Rhoddwyd trosolwg o’r
cynnydd arfaethedig mewn cyflogau sylfaenol ac uwch gyflogau aelodau etholedig.
Nododd os byddai aelodau’n dymuno peidio ei dderbyn y bydd angen iddynt roi
nodyn ysgrifenedig yn ôl y drefn arferol.
Tynnwyd sylw at y prif
fater i drafod sef y gofid sy’n parhau ynghylch y gyfradd isel o aelodau sy’n
hawlio’r ad-daliad tuag at ofal angenrheidiol ar gyfer plant ac oedolion
dibynnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gyfradd yn
isel ar draws Cymru, ac felly bod gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
drafod dulliau hyrwyddo’r ad-daliad ymysg aelodau.
Nodwyd bod cam eisoes wedi
ei gymryd wrth ddiddymu y gofyn
blaenorol i gyhoeddi enwau’r sawl oedd yn hawlio’r ad-daliad. Mynegwyd
bod y diddymiad yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth yn y gobaith y byddai mwy
o bobl o gefndiroedd amrywiol yn sefyll fel cynghorwyr.
Cododd
y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:
-
Awgrymwyd i dynnu sylw aelodau newydd at yr ad-daliad yn sydyn wedi eu
penodiad, ac atgoffa’r aelodau presennol drwy anfon llythyr.
-
Trafodwyd y posibilrwydd bod stigma yn gysylltiedig ag hawlio’r
ad-daliad, felly bod angen pwysleisio fod y sawl sy’n hawlio yn aros yn anhysbys .
-
Nodwyd bod angen normaleiddio hawlio’r ad-daliad drwy ei hyrwyddo ar
lefel genedlaethol.
-
Codwyd pryder bod aelodau presennol sydd
yn gymwys i hawlio ddim yn gwneud hynny, ac awgrymwyd bod angen rhoi
apêl allan iddynt ei hawlio.