skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 17/11/2020 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 6)

6 CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 391 KB

Gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer ymateb i Adroddiad (drafft) Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

(a)  Derbyn yr adroddiad.

(b)  Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.

 

Rhesymau:

 

Nodwyd yn yr adroddiad fod y niferoedd sy’n hawlio’r ad-daliad am gostau personol neu gostau gofal yn parhau i fod yn isel iawn ac felly mae angen i’r Pwyllgor hybu'r ddarpariaeth.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD 

 

(a)  Derbyn yr adroddiad.

(b)  Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at yr aelodau yn hyrwyddo’r ad-daliadau mewn ymgais i godi’r niferoedd sy’n hawlio.

 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith ei hadroddiad gan ofyn am sylwadau gan aelodau’r pwyllgor er mwyn ffurfio ymateb i’r ymgynghoriad erbyn 23ain o Dachwedd.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd arfaethedig mewn cyflogau sylfaenol ac uwch gyflogau aelodau etholedig. Nododd os byddai aelodau’n dymuno peidio ei dderbyn y bydd angen iddynt roi nodyn ysgrifenedig yn ôl y drefn arferol.

 

Tynnwyd sylw at y prif fater i drafod sef y gofid sy’n parhau ynghylch y gyfradd isel o aelodau sy’n hawlio’r ad-daliad tuag at ofal angenrheidiol ar gyfer plant ac oedolion dibynnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gyfradd yn isel ar draws Cymru, ac felly bod gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd drafod dulliau hyrwyddo’r ad-daliad ymysg aelodau.

 

Nodwyd bod cam eisoes wedi ei gymryd wrth ddiddymu y gofyn  blaenorol i gyhoeddi enwau’r sawl oedd yn hawlio’r ad-daliad. Mynegwyd bod y diddymiad yn hybu amrywiaeth mewn democratiaeth yn y gobaith y byddai mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol yn sefyll fel cynghorwyr.

 

 

 

Cododd y sylwadau penodol isod o’r drafodaeth:

 

-       Awgrymwyd i dynnu sylw aelodau newydd at yr ad-daliad yn sydyn wedi eu penodiad, ac atgoffa’r aelodau presennol drwy anfon llythyr.

-       Trafodwyd y posibilrwydd bod stigma yn gysylltiedig ag hawlio’r ad-daliad, felly bod angen pwysleisio fod y sawl sy’n hawlio yn aros  yn anhysbys .

-       Nodwyd bod angen normaleiddio hawlio’r ad-daliad drwy ei hyrwyddo ar lefel genedlaethol.

-       Codwyd pryder bod aelodau presennol sydd  yn gymwys i hawlio ddim yn gwneud hynny, ac awgrymwyd bod angen rhoi apêl allan iddynt ei hawlio.