7 ABSENOLDEB MABWYSIADU PDF 221 KB
Trafod yr ymgynghoriad i’r newidiadau i absenoldeb mabwysiadu ar gyfer
Cynghorwyr Awdurdodau Lleol.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Rhesymau:
Nodwyd y byddai hyn yn sicrhau bod aelodau etholedig yn
derbyn yr un hawliau a swyddogion. Awgrymwyd y byddai hyn yn hybu amrywiaeth
mewn democratiaeth.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Yn ymgynghoriad gan
Lywodraeth Cymru, cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac
Iaith ar ymestyn hyd absenoldeb mabwysiadu o bythefnos i 26 wythnos.
Nododd y byddai hynny’n
sicrhau y byddai aelodau etholedig yn derbyn yr un hawliau a swyddogion.
Ategwyd bod yr ymestyniad yma hefyd yn annog amrywiaeth mewn democratiaeth wrth
i bobl o gefndiroedd amrywiol weld yr hyblygrwydd sydd ynghlwm a sefyll fel
cynghorydd.
Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth:
- Gofynnwyd am eglurder
ynghylch hawliau absenoldeb beichiogrwydd i aelodau, ac mewn ymateb nododd y
Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith bod y rhain yr un fath i aelodau ag
ydynt i Swyddogion.