9 DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU PDF 623 KB
Rhoi trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau.
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Rhesymau:
Oherwydd yr
argyfwng Covid-19, ni fu’n bosib cynnal hyfforddiant yn y ffordd ‘draddodiadol’
ers peth amser, a bu’n anorfod datblygu dulliau amgen e.e. hyfforddiant
rhithiol (‘o bell’) ar gyfer y dyfodol.
Gyda hyn mewn golwg, lluniwyd rhaglen hyfforddiant ar gyfer 2020/21, gan
ymdrechu i gynnal amrywiaeth o deitlau perthnasol o ansawdd uchel.
Nodwyd
bod nifer o’r aelodau presennol wedi bod ar y cyrsiau hyfforddiant ac yn
croesawu’r dull newydd o’u gweithredu’n rhithiol. Ategwyd bod mwy o aelodau yn
mynychu oherwydd y natur hwylus o dderbyn hyfforddiant o bell.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr
adroddiad.
Cyflwynodd y Rheolwr Dysgu
a Datblygu’r Sefydliad ei adroddiad ar y ddarpariaeth sesiynau hyfforddiant o
bell.
Rhoddwyd trosolwg o’r
ddarpariaeth, gan amlygu llwyddiannau, heriau a datblygiadau sydd wedi bod gan
y gwasanaeth o ganlyniad i gyfyngiadau
Covid-19. Nodwyd bod y ddarpariaeth yn cynnwys pecynnau adnoddau, darpariaeth o
fideos hyfforddiant a hyfforddi unigol.
Nodwyd bod y diwylliant o
ddarparu hyfforddiant wedi newid cryn dipyn dros y misoedd diweddaraf a bod yr
hen ddulliau yn amherthnasol erbyn hyn. Dywedwyd bod mwy o aelodau wedi
ymgymryd â sesiynau hyfforddiant gan eu bod yn digwydd yn rhithiol, ac yn
ogystal bod mwy yn cyfrannu yn ystod y
sesiynau.
Gofynnwyd i’r aelodau ar y
pwyllgor ystyried cynnwys y pecyn hyfforddiant newydd a rhoi adborth ar y dull
o gynnig hyfforddiant yn rhithiol.
Cododd y sylwadau penodol
isod o’r drafodaeth:
- Dywedwyd bod mwy o gyfle i
gymryd rhan wedi bod ers dyfodiad hyfforddiant rhithiol. Ategwyd ei bod yn
syniad da i gynnal y sesiynau yn rhithiol gan ei bod yn fwy hwylus i fynychu
heb fod gorfod teithio iddynt. Nodwyd y
dylid ystyried cynnal rhai sesiynau gyda’r nos.
- Nodwyd bod mwy o aelodau i
weld yn mynychu’r sesiynau rhithiol o gymharu ag rhai sydd angen teithio
iddynt.
- Mynegwyd sylwadau ar y
rhaglen newydd gan nodi ei bod yn ddiddorol ac yn cynnig hyblygrwydd.