RHYBUDD O GYNNIG
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn
cynnig fel a ganlyn:-
“Penderfyna’r Cyngor:
(a) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw
bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n
agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.
(b) Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth
i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd
ar gyfer arddangosfeydd preifat.
(c) Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen
waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog :
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(a) Ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio
unrhyw bwerau sydd ganddi i
liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored
i niwed a
achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt.
(b) Ysgrifennu
at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth
i osod uchafswm
lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân
gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar
gyfer arddangosfeydd preifat.
(c) Gofyn
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn
ei raglen waith i adolygu
pa gamau all y Cyngor gymeryd
i hyrwyddo neu annog :
COFNODION:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Penderfyna’r
Cyngor:
(a) Ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru
unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan
arddangosfeydd tân gwyllt.
(b) Ysgrifennu
at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel
sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer
arddangosfeydd preifat.
(c) Gofyn
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa
gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog:
·
Fod
pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu
ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu
hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed.
·
Ymgyrch
i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl
sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru
risgiau.
·
Cyflenwyr
lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd
cyhoeddus.
·
Pobl
i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.”
Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan sawl aelod,
ond nodwyd bod raid cofio hefyd bod tân gwyllt yn rhan annatod o ddathliadau
crefyddol, megis Diwali, Gŵyl y Goleuni.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r
cynnig, sef:-
(a) Ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw
effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan
arddangosfeydd tân gwyllt.
(b) Ysgrifennu at Lywodraeth y DG
a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar
gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat.
(c) Gofyn i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor
gymeryd i hyrwyddo neu annog:
·
Fod pob arddangosfa tân gwyllt
gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw, o fewn ei
gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl
sy’n agored i niwed.
·
Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y
cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed –
gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau.
·
Cyflenwyr lleol tanau gwyllt i
werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.
·
Pobl i gyfyngu defnyddio tân
gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.