I Dderbyn Adroddiad Cynnydd
ar Argymhellion Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Gwasanaeth
Cadeiriau Olwyn)
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi y sylwadau
Gofynnwyd
am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen
Cofnod:
Diolchwyd am yr adroddiad cynnydd, yn dilyn cyflwyno y
mater i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2019. Gofynnwyd am sylwadau ar y
gweithredoedd yn sgil yr argymhellion, a nodwyd fel a ganlyn :
Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at
Vaughan Gething yn 2019 yn tynnu sylw at yr adroddiad, ond nododd nad oedd
ymateb wedi dod i law, ond teimlwyd mai materion ar gyfer gweithrediad lleol
oedd yn codi o’r argymhellion. Nododd
bod y gwaith wedi amlygu y cydweithio rhwng y Cyngor a’r Gwasanaeth Iechyd a
theimlwyd fod nifer o argymhellion yr Adroddiad ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. Yn sgil hyn, nodwyd pwysigrwydd cadw y
cyfathrebu yn fyw gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Cadarnhaodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ymateb gan y Gwasanaeth Iechyd i’r
argymhelliad yn yr adroddiad.
Adroddwyd ar faterion penodol i’r Gwasanaeth Iechyd
isod, gan ddangos symudiad yn y materion, ond wrth gwrs mae cynnydd wedi arafu
oherwydd COVID.
Cadarnhawyd nad yw’r Gweithgor Partneriaeth Ranbarthol
wedi ei sefydlu eto, ond fod trefniadau lleol wedi eu sefydlu rhwng y
Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Chyngor Gwynedd i wella cydweithio.
Mae penodiad Arweinydd Therapi Galwedigaethol ar gyfer
Cyngor Gwynedd wedi hwyluso cyfathrebu a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae dogfennau cyfeirio electroneg yn cael eu treialu
gan y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd, ac mae bwriad cyflwyno trefn gyfeirio
electroneg yn fuan.
Mae hyfforddiant ar y cyd yn digwydd rhwng y
Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Thimau Adnodd Cymunedol Gwynedd.
Nodwyd pryder bod arafwch o ran asesiad amgylchedd y
cartref ynghyd a phryder bod y therapyddion galwedigaethol heb hyfforddiant a
chwestiynwyd tybed a oedd hyn wedi ei ddatrys?
Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb therapyddion galwedigaethol y Cyngor ydy
cynnal asesiad amgylchedd yn y cartref, a bod cyfrifoldeb ar therapydd
galwedigaethol y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd i gwblhau asesiadau ar gyfer
offer arbenigol. Nid oes datblygiadau pellach ynghylch cytundeb gan y
Gwasanaeth Iechyd i Therapyddion Galwedigaethol o Awdurdodau Lleol dderbyn yr
hyfforddiant arbenigol. Serch hyn, mae cynnydd wedi bod yn yr ymweliadau ar y
cyd rhwng therapyddion yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd
sydd yn gwella cydweithio ac yn lleihau oedi mewn sicrhau offer addas yn
amserol. Cadarnhawyd y byddai unrhyw
ddatblygiadau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.
Cadarnhawyd bod aelodau y gweithgor wedi siarad gyda
rhai cleifion am yr effaith/diffygion a chafwyd cadarnhad bod y Gweithgor wedi
gallu gwella y gwasanaeth a bod y Bwrdd Iechyd wedi symud ymlaen, a bod llawer
wedi newid, er gwell, tra roedd yr ymchwiliad ar y gweill.
Nodwyd balchder wrth
ddarllen yr argymhellion ond nodwyd y gwahaniaeth sylweddol rhwng Gogledd a De
Cymru. Nodwyd ei bod yn bwysig peidio ag
anghofio yr argymhellion, dal i dderbyn diweddariadau a dal i wella er mwyn
symud ymlaen. Cadarnhawyd bod yr
asesiadau yn well yn y De a bod lle i wella y Gwasanaeth yn y Gogledd a bo hwn
angen sylw y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd.
Cwestiynwyd y cyfarpar oedd yn cael ei roi allan i’r cleifion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7