7 DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL PDF 504 KB
I gyflwyno diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau
diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol.
I gynnwys cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd y diweddariad gan Lee Robinson –
Trafnidiaeth Cymru
PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD derbyn
y wybodaeth oedd yn diweddaru’r Aelodau ar
ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau
Rhanbarthol a chyda chyllid parhad y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau mewn
perthynas ag effeithiau pandemig Covid
19.
TRAFODAETH
Cadarnhawyd,
oherwydd COVID bo Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag ymgymerwyr bysiau gan
edrych ar ffyrdd newydd o gyllido ac ystyried pa lwybrau maent yn eu
rhedeg. Cyfeiriodd hefyd ar y scheme Argyfwng Bysiau, gan gadarnhau bo sgwrs gydag ymgymerwyd
ar y gweill ar gyfer 8/12/20, ond bod cyfyngiadau amser oherwydd COVID.
Cyfeiriodd
at y Cytundeb Partneriaeth i drafod llwybrau a’r agenda carbon, ond cadarnhaodd
bod yr ymgymerwyr yn gweld y drafodaeth yn unochrog.
Rhoddodd
y Swyddog gyflwyniad ar Ddiwygio a Dyluniad Rhwydwaith Bysiau gan gadarnhau y
byddent yn gweithio mewn pedwar rhanbarth Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De
Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru.
Atgoffodd
yr Is-Fwrdd eu bod wedi comisiynu darn o waith i edrych ar wyth mater penodol
ar gyfer y rhanbarth a chytunodd i rannu y cyflwyniad.
Gofynnwyd
am unrhyw sylwadau pellach gan yr Aelodau Cabinet cyn symud ymlaen :
Mae
gwahaniaeth rhwng cefn gwlad a threfol ond mae pob Sir yma yn bresennol yn
wahanol. Mae twristiaeth yn bwysig iawn,
ac mae angen cael y neges honno ar draws.
Sylwyd bo gwaith wedi ei ffocysu o gwmpas hybiau trefol metro - mae rhai llwybrau craidd yn gallu bod yn rhai
trefol i drefol a chwestiynwyd ble mae hyn yn gweithio, sut mae modd mesur gwerth
cymdeithasol a gwerth economaidd?
Gofynnwyd i Drafnidiaeth Cymru beidio ag anghofio am y boblogaeth hyn
wrth wneud unrhyw waith ymgynghori gan gofio nad ydym yn byw mewn cyfod
arferol, cynrychiadol.
Gofynnwyd
am ystyriaeth hefyd i sut mae cyllido addysg yn cysylltu, ynghyd a chyllido
gofal iechyd cymdeithasol.
Nododd
swyddog o Lywodraeth Cymru ei fod yn annog materion cefn gwlad yn y gymuned,
ynghyd a phwysigrwydd cynllunio y rhwydwaith gan ystyried pobl mewn cymunedau.
Cytunwyd
y byddai Iwan P Jones, fel paratoad i’r cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer
18/1/21, yn cysylltu i geisio barn ar faterion bysiau.