Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 07/12/2020 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth (eitem 7)

7 DIWEDDARIAD - BYSIAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 504 KB

I gyflwyno diweddariad i’r aelodau ar ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol.

I gynnwys cyflwyniad gan Lee Robinson, TfW.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y diweddariad gan Lee Robinson – Trafnidiaeth Cymru

 

PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth oedd yn diweddaru’r Aelodau ar ddatblygiadau diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Rhwydwaith Bysiau Rhanbarthol a chyda chyllid parhad y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau mewn perthynas ag effeithiau pandemig Covid 19.

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhawyd, oherwydd COVID bo Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag ymgymerwyr bysiau gan edrych ar ffyrdd newydd o gyllido ac ystyried pa lwybrau maent yn eu rhedeg.  Cyfeiriodd hefyd ar y scheme Argyfwng Bysiau, gan gadarnhau bo sgwrs gydag ymgymerwyd ar y gweill ar gyfer 8/12/20, ond bod cyfyngiadau amser oherwydd COVID.

 

Cyfeiriodd at y Cytundeb Partneriaeth i drafod llwybrau a’r agenda carbon, ond cadarnhaodd bod yr ymgymerwyr yn gweld y drafodaeth yn unochrog.

 

Rhoddodd y Swyddog gyflwyniad ar Ddiwygio a Dyluniad Rhwydwaith Bysiau gan gadarnhau y byddent yn gweithio mewn pedwar rhanbarth Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Ddwyrain Cymru a De Orllewin Cymru.

 

Atgoffodd yr Is-Fwrdd eu bod wedi comisiynu darn o waith i edrych ar wyth mater penodol ar gyfer y rhanbarth a chytunodd i rannu y cyflwyniad.

 

Gofynnwyd am unrhyw sylwadau pellach gan yr Aelodau Cabinet cyn symud ymlaen :

 

Mae gwahaniaeth rhwng cefn gwlad a threfol ond mae pob Sir yma yn bresennol yn wahanol.  Mae twristiaeth yn bwysig iawn, ac mae angen cael y neges honno ar draws.  Sylwyd bo gwaith wedi ei ffocysu o gwmpas hybiau trefol metro - mae rhai llwybrau craidd yn gallu bod yn rhai trefol i drefol a chwestiynwyd ble mae hyn yn gweithio, sut mae modd mesur gwerth cymdeithasol a gwerth economaidd?  Gofynnwyd i Drafnidiaeth Cymru beidio ag anghofio am y boblogaeth hyn wrth wneud unrhyw waith ymgynghori gan gofio nad ydym yn byw mewn cyfod arferol, cynrychiadol.

 

Gofynnwyd am ystyriaeth hefyd i sut mae cyllido addysg yn cysylltu, ynghyd a chyllido gofal iechyd cymdeithasol.

 

Nododd swyddog o Lywodraeth Cymru ei fod yn annog materion cefn gwlad yn y gymuned, ynghyd a phwysigrwydd cynllunio y rhwydwaith gan ystyried pobl mewn cymunedau.

 

Cytunwyd y byddai Iwan P Jones, fel paratoad i’r cyfarfod oedd wedi ei drefnu ar gyfer 18/1/21, yn cysylltu i geisio barn ar faterion bysiau.