I hysbusu’r
pwyllgor am unrhyw gwyion.
Awdur:
Gwenllian Williams.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
Cyflwynodd yr
Ymgynghorydd Iaith ei hadroddiad
ar y wybodaeth ddiweddaraf am
gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant ac
arfer dda wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng
ngwasanaethau’r Cyngor. Amlygodd y
prif bwyntiau
canlynol yn ystod
ei chyflwyniad:-
· Nododd
bod yr amgylchiadau presennol wedi ei gwneud
yn anodd cynnal rhai gwasanaethau megis cyfarfodydd
a phwyllgorau rhithiol o ganlyniad i ddiffyg cyfleuster cyfieithu ar Teams.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae’r Cyngor yn defnyddio Zoom er
mwyn darparu cyfieithu ar y pryd.
· Eglurodd
bod y cyfnod presennol wedi hwyluso datblygiad sgiliau staff, er enghraifft
gwelwyd cynnydd yn y niferoedd o staff sy’n dysgu Cymraeg a manteisio ar
gyrsiau hyfforddiant.
· Rhoddodd
gyfeiriad uniongyrchol at staff Byw’n Iach, sydd
wedi bod yn anodd eu cyrraedd o ran datblygu sgiliau yn y gorffennol.
· O
ran cwynion am gydymffurfiaeth efo’r Safonau,
nododd nad oedd cwynion ffurfiol i adrodd
arnynt, ond bod ambell
ymholiad wedi eu derbyn lle
cafodd y mater ei
ddatrys yn sydyn heb gyfeiriad pellach.
· O
ran polisi iaith, nododd bod dwy gŵyn
wedi eu derbyn,
un a gafodd ei datrys yn sydyn ac un ychydig yn fwy
cymhleth oherwydd mai gwraidd y gwyn oedd argaeledd
dewis iaith ar ddyfais dechnolegol.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar
yr adroddiad. Gan
nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad, gwahoddwyd yr
aelodau i gysylltu â’r uned Iaith
gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau pellach.