Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/01/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C20/0804/25/LL - 8, Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 468 KB

Newid defnydd uned wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

 

1.            dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd

2.            cario’r datblygiad allan yn unol gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd

3.            amod i sicrhau fod defnydd yr adeilad yn mynd yn ol i’w ddefnydd gwreiddiol os daw defnydd y ddeintyddfa i ben yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Newid defnydd uned wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd o gais a wrthodwyd ym Mehefin, 2020 ar gyfer newid defnydd o swyddfa (Dosbarth Defnydd B1) i ddeintyddfa (Dosbarth Defnydd D1) o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc Menai.

 

Wrth ystyried egwyddor y defnydd arfaethedig amlygwyd y dylid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio a’r holl feini prawf a gynhwysir ym Mholisi ISA 2 (cyfleusterau cymunedol) o’r CDLL. I bwrpas y polisi, cadarnhawyd fod cyfleusterau cymunedol yn cynnwys ‘cyfleusterau a ddefnyddir gan gymunedau lleol at ddibenion iechyd… ac unrhyw gyfleuster arall sy’n cyflawni’r rôl o wasanaethu’r gymuned’.

 

Adroddwyd bod Polisi PS13 a Pholisi CYF1 o'r CDLL yn nodi y gwarchodir y safle a’r uned ar gyfer defnydd cyflogaeth yn Nefnydd Dosbarth B1. Yn unol â Pholisi CYF5 (defnyddiau amgen o Safleoedd Cyflogaeth bresennol) adroddwyd mai mewn achosion arbennig yn unig y caniateir cynigion i ryddhau tir yn Nosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod yn unol â Pholisi CYF1 ar gyfer defnydd amgen a dim ond ble gellid cwrdd gydag un neu fwy o feini prawf y polisi:

 

·           “Yn yr achos fod y safle yn wag ei fod yn annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr a chanolig ar gyfer defnydd gwreiddiol neu ddefnydd y warchodaeth, neu;

·           Mae yna orddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth o fewn y cyffiniau, neu;

·           Mae’r defnydd cyflogaeth bresennol yn cael effaith niweidiol ar fwynderau a’r amgylchedd, neu;

·           Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar ddefnydd cyflogaeth safleoedd cyfagos, neu;

·           Nid oes yna safle amgen arall ar gyfer y defnydd bwriedir, neu;

·           Os yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd tymor byr (dros dro), bod yna fesurau adfer priodol mewn lle sydd i foddhad yr Awdurdod Cynllunio Lleol.”

 

Amlygwyd bod gwybodaeth fanwl a helaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi’r cais oedd yn  cynnwys Datganiad Cynllunio, yn ogystal â Datganiad Cynllunio gan yr asiant, Datganiad Prawf Dilyniannol ynghyd a Dogfen Tystiolaeth Hygyrchedd y Safleoedd yn amlygu’r sylwadau isod:

 

·           Mae cymuned Penrhosgarnedd yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae cymuned Parc Menai yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae staff/cymuned Ysbyty Gwynedd yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae gwasanaeth bws rheolaidd gan gwmnïau amrywiol yn gwasanaethu busnesau eraill ym Mharc Menai.

·           Mae rhwydwaith beics presennol ynghyd a llwybrau cyhoeddus yn gwasanaethu Parc Menai.

·           Mae’r safle yn hygyrch yn ddaearyddol i ddefnyddwyr lleol a rhanbarthol sy’n defnyddio’r A55.

·           Nodir bod y rhan helaeth o gleifion y cyfleuster presennol yn defnyddio car (gyda nifer ohonynt yn gleifion oedrannus a fyddai’n anghyfleus neu yn amhosibl defnyddio cludiant cyhoeddus). Ni fyddai’r sefyllfa yma yn newid gyda’r safle newydd hwn ym Mharc Menai. Os rhywbeth, fyddai’n agosach i nifer helaeth o gleifion sy’n defnyddio’r cyfleuster  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8