9 Cais Rhif C20/0538/03/LL - Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DW PDF 351 KB
Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb o dan Adran 106 er mwyn
trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai
ac i’r amodau canlynol:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau.
3.
Llechi fel deunydd toi
4.
Samplau o’r deunyddiau
a’r lliwiau ar gyfer yr
adeiladau i’w cytuno gyda’r
ACLL.
5.
Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio/mynedfa.
6.
Tirlunio meddal a chaled.
7.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl yn ystod y Sul
a Gwyliau Banc.
8.
Cytuno manylion parthed
enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle.
9.
Tynnu hawliau datblygu
cyffredinol yr holl unedau.
10.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu
gan gynnwys gwaith dymchwel a threfniadau gwaith yn ystod adeiladu
i’w gytuno gyda’r ACLL.
11.
Sicrhau / cytuno ar gynllun tai fforddiadwy (safonol)
Nodyn:
SUDS
Dwr Cymru
Cofnod:
Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad gwag presennol
a chodi 6 tŷ preswyl newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac yn safle a ddefnyddiwyd
yn flaenorol fel Canolfan Iechyd
Amlbwrpas, ond sydd bellach yn
wag ers i’r adnodd gael ei
ail leoli i’r Ganolfan Iechyd newydd gerllaw. Amlygwyd bod sawl elfen i’r cais:-
·
Darparu
4 tŷ 3 llofft (5
person) ynghyd a 2 dŷ
2 lofft (4 person)
·
Darparu
isadeiledd i gynnwys ardaloedd gwanhad/cadw dŵr
o fewn y safle, storfeydd biniau/ail-gylchu a sied ar
gyfer pob tŷ, 12 llecyn parcio ar gyfer
defnyddwyr/preswylwyr y tai newydd, codi
ffens bren ar hyd ochrau
a chefn y safle.
·
Darparu
gerddi unigol i bob tŷ i
gefn y safle.
·
Bwriedir
dymchwel yr adeilad presennol a lleoli'r tai newydd
fwy neu lai
ar yr un ôl troed, maent
i’w gosod fesul 3 tŷ pâr gydag edrychiadau
allanol i gynnwys to llechi a’r waliau allanol
i fod yn
gymysgedd o rendr a chladin llechi.
Adroddwyd bod y bwriad yn golygu
darparu 6 uned breswyl ac yn unol
â gofynion Polisi TAI 15 dylai o leiaf 10% o’r unedau fod
yn fforddiadwy. Cadarnhawyd bod Adra yn gysylltiedig gyda’r datblygiad a’u bwriad yw
gosod y 6 uned ar lefelau rhent
tai cymdeithasol. Ategwyd bod Adra yn y broses o wneud cais i’r cynllun
gael ei
gynnwys ar y rhaglen grant yng Ngwynedd gyda bwriad
o brynu’r tai gan y datblygwr ar lefelau
ACG am unedau fforddiadwy. Fel byddai’n arferol
gyda chais ble nad Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fel Adra yw’r ymgeisydd, ond yn nodi
diddordeb i ddatblygu’r safle, ystyriwyd yn rhesymol i lunio
cytundeb 106 er mwyn sicrhau fod
y datblygiad yn cael ei drosglwyddo
i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan sicrhau rheolaeth a fforddiadwyedd i’r dyfodol.
Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau
ar sail mwynderau gweledol, cyffredinol, preswyl na
thrafnidiaeth. Ni ystyriwyd
fod y bwriad yn groes i
bolisïau lleol na chenedlaethol
ac nad oes unrhyw fater cynllunio
perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. Ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i gynnwys amodau
priodol.
a) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais
b) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ardal
yn addas ar gyfer y bwriad
·
Bod angen lleol am dai
·
Bod dros 100 o dai haf ym
Mlaenau Ffestiniog ac felly croesawu’r cais am dai i bobl
leol.
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb o dan Adran 106 er mwyn
trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai
ac i’r amodau canlynol:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r cynlluniau.
3. Llechi fel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9