skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Cabinet (eitem 5.)

ADNABOD YR OPSIWN FFAFRIEDIG AR GYFER DYFODOL AMGUEDDFA LLOYD GEORGE

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd i wneud cyfraniad un tro am gostau blwyddyn yr Amgueddfa er mwyn prynu amser i Ymddiriedolaeth Elusen Amgueddfa Lloyd George i edrych ar y newidiadau all eu gwneud er mwyn i’r Amgueddfa fod yn hyfyw i’r dyfodol.

 

I’r Adran Economi a Chymuned adrodd yn ôl i’r Cabinet yn eitsedd fel Ymddiriedolwr yn fuan er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r bwriad ar gyfer gwireddu’r cynllun i roddi’r elusen ar droed mwy masnachol fel yr argymhellwyd eisoes gan yr adroddiadau ymgynghorwyr a dderbyniwyd.

 

Gofyn i’r adran a’r Gwasaneth Cyfreithiol adolygu trefniadau’r Elusen er mwyn sicrhau bod materion yr ymddiriedolaeth yn hollol glir ac ar wahân i faterion y Cyngor.