Mater - cyfarfodydd
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Cabinet (eitem 5.)
ADNABOD YR OPSIWN FFAFRIEDIG AR GYFER DYFODOL AMGUEDDFA LLOYD GEORGE
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd i wneud cyfraniad un tro am
gostau blwyddyn yr Amgueddfa er mwyn prynu amser i Ymddiriedolaeth Elusen
Amgueddfa Lloyd George i edrych ar y newidiadau all eu gwneud er mwyn i’r
Amgueddfa fod yn hyfyw i’r dyfodol.
I’r Adran Economi a Chymuned adrodd yn ôl i’r Cabinet yn
eitsedd fel Ymddiriedolwr yn fuan er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r bwriad
ar gyfer gwireddu’r cynllun i roddi’r elusen ar droed mwy masnachol fel yr
argymhellwyd eisoes gan yr adroddiadau ymgynghorwyr a dderbyniwyd.
Gofyn i’r adran a’r Gwasaneth Cyfreithiol adolygu
trefniadau’r Elusen er mwyn sicrhau bod materion yr ymddiriedolaeth yn hollol
glir ac ar wahân i faterion y Cyngor.