14 YMATEB I RYBUDD O GYNNIG BLAENOROL PDF 173 KB
Cyflwyno, er gwybodaeth, llythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd er gwybodaeth – llythyr gan Brif
Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb
i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref,
2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.
Nododd aelod ei anfodlonrwydd
ei bod wedi cymryd pum mis
a hanner i gyflwyno’r ymateb i aelodau’r Cyngor.
7 DATBLYGU EGWYDDORION TWRISTIAETH GYNALIADWY A TRETH TWRISTIAETH PDF 399 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad, gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
Cofnod:
Croesawyd Arweinydd y Cyngor, yr Aelod
Cabinet Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r camau a gymerwyd hyd yma i
lunio’r egwyddorion economi ymweld drafft a’r camau y bwriedid eu cymryd i
lunio Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd 2030.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
nodi bod yr economi ymweld yn rhan bwysig o economi’r sir, gyda nifer fawr yn
cael eu cyflogi yn y diwydiant yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, wrth i Covid daro’r diwydiant,
daeth yn amlwg bod rhaid i’r Cyngor ail-ymweld â’i egwyddorion yn y maes. Roedd newid sylweddol wedi bod yn y ffordd
rydym yn edrych ar yr economi ymweld. Yn
flaenorol, roedd pawb yn meddwl am yr ymwelydd yn ganolog i unrhyw economi
ymweld, ond bellach, daethpwyd i’r farn mai trigolion Gwynedd ddylai fod yn
ganolog i unrhyw egwyddorion o gwmpas yr economi ymweld, a rhoddwyd lle
blaenllaw i hyn yn natblygiad yr egwyddorion.
Os oedd pobl Gwynedd yn gweld y budd a bod y diwydiant ymweld yn
dderbyniol ganddynt, roedd hynny’n bwydo drwodd i brofiad yr ymwelwyr. Nodwyd y trefnwyd gweithdy ar gyfer holl
gynghorwyr Gwynedd ar 2 Mawrth, 2021 er mwyn cyflwyno’r egwyddorion drafft,
gyda bwriad o’u cyflwyno i’r Cabinet cyn diwedd Mawrth i’w mabwysiadu ar ffurf
drafft i ymgynghori arnynt gyda phobl Gwynedd.
Cytunodd yr Arweinydd fod datblygu’r
egwyddorion hyn yn newid cyfeiriad sylweddol iawn i’r Cyngor. Gwelwyd llynedd beth oedd twristiaeth
‘anghynaliadwy’, a dyma’r math o dwristiaeth oedd yn niweidio’r amgylchedd, ac
yn cael drwg-effaith ar y cymunedau.
‘Roedd datgan ein bod yn gosod cyfeiriad newydd yn bwysig iawn. Credid bod y diwydiant hefyd yn gweld yr
angen i fod yn adlewyrchu ein cymdeithas yn llawer gwell, ac roedd yr
egwyddorion yn sylfaen i’r math o gefnogaeth a chyfeiriad roedd y Cyngor yn ei
roi i’r diwydiant. Roedd cyfarfodydd
gyda’r diwydiant wedi dangos bod twristiaeth yn ddiwydiant pwysig iawn i’n pobl
ni, er bod canfyddiad ei fod ym mherchnogaeth eraill. Roedd y pandemig wedi dangos bod ardaloedd
gwledig fel Gwynedd bron iawn yn llwyr ddibynnol ar dwristiaeth bellach, ac
roedd hynny’n ysgogiad i barhau â’r gwaith o geisio creu economi llawer mwy
amrywiol. Er bod £1.3 biliwn yn dod i
Wynedd drwy’r diwydiant, roedd incwm aelwydydd Gwynedd ymhlith yr isaf yn y
wlad, ac roedd angen datblygu diwydiant lletygarwch sy’n rhoi gyrfa dda, a
chyflogaeth dda. Roedd enghreifftiau o
hynny’n bodoli eisoes, ac roedd angen gweithio i wella ansawdd y diwydiant yng
Nghymru.
Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at lythyr ymateb y Parc Cenedlaethol i benderfyniad y Cyngor i ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r parc. Nododd fod y llythyr yn datgan y byddai’n llwyr amhosib’ codi tâl am fynd i ben yr Wyddfa ar sawl cyfrif, ond nad oedd hynny’n ein rhwystro rhag edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm. Roedd cynllun y Parc i greu system drafnidiaeth yn ardaloedd yr Wyddfa ac Ogwen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7