Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/05/2021 - Y Cyngor (eitem 14)

14 YMATEB I RYBUDD O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, llythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaethllythyr gan Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Glyn Daniels i gyfarfod 1 Hydref, 2020 ynglŷn â’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr am ymweld â rhannau o’r Parc Cenedlaethol.

 

Nododd aelod ei anfodlonrwydd ei bod wedi cymryd pum mis a hanner i gyflwyno’r ymateb i aelodau’r Cyngor.

 


Cyfarfod: 04/02/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi (eitem 7)

7 DATBLYGU EGWYDDORION TWRISTIAETH GYNALIADWY A TRETH TWRISTIAETH pdf eicon PDF 399 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Croesawyd Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r camau a gymerwyd hyd yma i lunio’r egwyddorion economi ymweld drafft a’r camau y bwriedid eu cymryd i lunio Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd 2030.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy nodi bod yr economi ymweld yn rhan bwysig o economi’r sir, gyda nifer fawr yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol.  Fodd bynnag, wrth i Covid daro’r diwydiant, daeth yn amlwg bod rhaid i’r Cyngor ail-ymweld â’i egwyddorion yn y maes.  Roedd newid sylweddol wedi bod yn y ffordd rydym yn edrych ar yr economi ymweld.  Yn flaenorol, roedd pawb yn meddwl am yr ymwelydd yn ganolog i unrhyw economi ymweld, ond bellach, daethpwyd i’r farn mai trigolion Gwynedd ddylai fod yn ganolog i unrhyw egwyddorion o gwmpas yr economi ymweld, a rhoddwyd lle blaenllaw i hyn yn natblygiad yr egwyddorion.  Os oedd pobl Gwynedd yn gweld y budd a bod y diwydiant ymweld yn dderbyniol ganddynt, roedd hynny’n bwydo drwodd i brofiad yr ymwelwyr.  Nodwyd y trefnwyd gweithdy ar gyfer holl gynghorwyr Gwynedd ar 2 Mawrth, 2021 er mwyn cyflwyno’r egwyddorion drafft, gyda bwriad o’u cyflwyno i’r Cabinet cyn diwedd Mawrth i’w mabwysiadu ar ffurf drafft i ymgynghori arnynt gyda phobl Gwynedd.

 

Cytunodd yr Arweinydd fod datblygu’r egwyddorion hyn yn newid cyfeiriad sylweddol iawn i’r Cyngor.  Gwelwyd llynedd beth oedd twristiaeth ‘anghynaliadwy’, a dyma’r math o dwristiaeth oedd yn niweidio’r amgylchedd, ac yn cael drwg-effaith ar y cymunedau.  ‘Roedd datgan ein bod yn gosod cyfeiriad newydd yn bwysig iawn.  Credid bod y diwydiant hefyd yn gweld yr angen i fod yn adlewyrchu ein cymdeithas yn llawer gwell, ac roedd yr egwyddorion yn sylfaen i’r math o gefnogaeth a chyfeiriad roedd y Cyngor yn ei roi i’r diwydiant.  Roedd cyfarfodydd gyda’r diwydiant wedi dangos bod twristiaeth yn ddiwydiant pwysig iawn i’n pobl ni, er bod canfyddiad ei fod ym mherchnogaeth eraill.  Roedd y pandemig wedi dangos bod ardaloedd gwledig fel Gwynedd bron iawn yn llwyr ddibynnol ar dwristiaeth bellach, ac roedd hynny’n ysgogiad i barhau â’r gwaith o geisio creu economi llawer mwy amrywiol.  Er bod £1.3 biliwn yn dod i Wynedd drwy’r diwydiant, roedd incwm aelwydydd Gwynedd ymhlith yr isaf yn y wlad, ac roedd angen datblygu diwydiant lletygarwch sy’n rhoi gyrfa dda, a chyflogaeth dda.  Roedd enghreifftiau o hynny’n bodoli eisoes, ac roedd angen gweithio i wella ansawdd y diwydiant yng Nghymru.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at lythyr ymateb y Parc Cenedlaethol i benderfyniad y Cyngor i ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r parc.  Nododd fod y llythyr yn datgan y byddai’n llwyr amhosib’ codi tâl am fynd i ben yr Wyddfa ar sawl cyfrif, ond nad oedd hynny’n ein rhwystro rhag edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm.  Roedd cynllun y Parc i greu system drafnidiaeth yn ardaloedd yr Wyddfa ac Ogwen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7