Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor (eitem 9)

9 ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2021/22 pdf eicon PDF 272 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2020/21, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000, gan nad yw cyflog presennol y swydd yn gystadleuol â swyddi sydd yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol mewn awdurdodau lleol rhanbarthol eraill, a bod hynny yn cyflwyno risg sydd yn annerbyniol i weithrediad effeithiol y Cyngor.

 

Nododd aelod na chredai mai nawr oedd yr amser i godi cyflogau, gyda llawer o bobl y sir yn colli eu gwaith, heb siawns o gael gwaith arall.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro yn syth i uchafswm o tua £70,000.