9 ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2021/22 PDF 272 KB
Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro
yn syth i uchafswm o tua £70,000.
Cofnod:
Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion adroddiad yn argymell
i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2020/21, yn cynnwys y penderfyniad
i godi cyflog
swydd y Swyddog Monitro yn syth
i uchafswm o tua £70,000, gan nad yw cyflog
presennol y swydd yn gystadleuol â swyddi sydd yn
ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol mewn awdurdodau lleol rhanbarthol eraill, a bod hynny yn cyflwyno risg
sydd yn annerbyniol
i weithrediad effeithiol y Cyngor.
Nododd aelod na
chredai mai nawr oedd yr
amser i godi
cyflogau, gyda llawer o bobl y sir yn colli eu
gwaith, heb siawns o gael gwaith
arall.
PENDERFYNWYD cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2021/22, yn cynnwys y penderfyniad i godi cyflog swydd y Swyddog Monitro
yn syth i uchafswm o tua £70,000.