10 CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021/22 PDF 360 KB
Cyflwyno adroddiad
Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu
Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn
ystod 2021/22.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad
yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun
y Cyngor 2018-23: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei
weithredu yn ystod 2021/22.
Diolchodd yr Arweinydd i
bob aelod o staff y Cyngor am gyfrannu
at yr ymateb i argyfwng y pandemig,
drwy fod mor barod i
addasu i ddulliau gwahanol o weithio, i newid
gwaith ac i ymroi i ymateb
ac i ddarparu gwasanaethau i drigolion Gwynedd. Nododd fod y cynghorau
sir wedi ymateb yn arwrol ac yn
effeithiol i’r clefyd, a bod y llywodraethau bellach yn sylweddoli
pa mor hanfodol,
a pha mor barod i weithredu,
y mae awdurdodau lleol.
PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd
2018-2023: Adolygiad 2021/22 er mwyn ei weithredu yn ystod 2021/22.