12 STRATEGAETH GYFALAF 2021/22 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) PDF 466 KB
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn rhoi trosolwg
lefel uchel ar y modd y mae
gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu
at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol. ‘Roedd yr adroddiad hefyd
yn rhoi trosolwg
o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.
Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu fod y pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth
briodol i’r mater yn dilyn cyflwyniad
gan gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, a diolchodd i Arlingclose
am eu hadroddiad calonogol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22.