13 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 PDF 557 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Derbyn yr wybodaeth.
2. Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu
gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn manylu
ar ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yn argymell gofyn
i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb
i’r darpariaethau hynny.
Mewn ymateb i gwestiynau
gan aelodau, eglurwyd:-
·
Nad
oedd y ddeddf yn effeithio ar y cyfnod cyn etholiad,
ond ar gyfer Etholiad Senedd Cymru ym mis
Mai, roedd y cyfnod yn cychwyn ar 22 Mawrth ac yn parhau
tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Mai. Er y gallai hyn
effeithio ar fusnes y
Cyngor, oherwydd y gofyn i geisio peidio
rhoi cyhoeddusrwydd i faterion gwleidyddol
sensitif mewn cyfnod cyn etholiad,
nid oedd yr effaith yn
sylweddol fel arfer.
·
Bod y ddeddf yn
ffurfioli mewn ffordd newydd rôl arweinyddion grwpiau i fod yn atebol am
ymddygiad eu haelodau. Ni olygai hynny
dorri’r Cod, ond roedd yn rhoi lefel o gyfrifoldeb am ymddygiad ar arweinydd y
grŵp. Ar hyn o bryd, nid oes fawr o
arweiniad statudol o ran sut byddai hynny’n gweithio’n ymarferol, ond mae’n
debygol y byddai cael trefn statudol yn nodi rôl clir i’r arweinydd petai mater
yn codi o ran ymddygiad aelodau. Gallai
hefyd, o bosib’, fod yn gyfrwng i ddatrys y mater ac i roi cyd-destun mwy
cadarn i’r disgwyl yma.
·
Pan ddeuai’r
trefniadau rhannu swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i rym, byddai modd i
fwy nag un person ymgymryd â’r rolau hyn.
Eto, roedd angen gweld yr arweiniad o ran sut y byddai’r gyfundrefn
yma’n gweithio’n ymarferol, ond roedd yn rhan o’r gofynion newydd o ran
trefniadau democrataidd.
PENDERFYNWYD
1.
Derbyn yr wybodaeth.
2.
Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen
waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.