Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor (eitem 13)

13 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 557 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.  Derbyn yr wybodaeth.

2.  Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yn argymell gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i’r darpariaethau hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, eglurwyd:-

 

·         Nad oedd y ddeddf yn effeithio ar y cyfnod cyn etholiad, ond ar gyfer Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai, roedd y cyfnod yn cychwyn ar 22 Mawrth ac yn parhau tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Mai.  Er y gallai hyn effeithio ar fusnes y Cyngor, oherwydd y gofyn i geisio peidio rhoi cyhoeddusrwydd i faterion gwleidyddol sensitif mewn cyfnod cyn etholiad, nid oedd yr effaith yn sylweddol fel arfer.

·         Bod y ddeddf yn ffurfioli mewn ffordd newydd rôl arweinyddion grwpiau i fod yn atebol am ymddygiad eu haelodau.  Ni olygai hynny dorri’r Cod, ond roedd yn rhoi lefel o gyfrifoldeb am ymddygiad ar arweinydd y grŵp.  Ar hyn o bryd, nid oes fawr o arweiniad statudol o ran sut byddai hynny’n gweithio’n ymarferol, ond mae’n debygol y byddai cael trefn statudol yn nodi rôl clir i’r arweinydd petai mater yn codi o ran ymddygiad aelodau.  Gallai hefyd, o bosib’, fod yn gyfrwng i ddatrys y mater ac i roi cyd-destun mwy cadarn i’r disgwyl yma.

·         Pan ddeuai’r trefniadau rhannu swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion i rym, byddai modd i fwy nag un person ymgymryd â’r rolau hyn.  Eto, roedd angen gweld yr arweiniad o ran sut y byddai’r gyfundrefn yma’n gweithio’n ymarferol, ond roedd yn rhan o’r gofynion newydd o ran trefniadau democrataidd.

 

PENDERFYNWYD

1.  Derbyn yr wybodaeth.

2.  Gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gymeradwyo a monitro rhaglen waith ymateb i ddarpariaethau’r Ddeddf.