Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet (eitem 8)

8 CYNLLUN PRYNU TAI I'W GOSOD I DRIGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 511 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.

 

Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen penderfyniadau ychwanegol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.

 

Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen penderfyniadau ychwanegol. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Gwynedd yng nghanol argyfwng tai ar hyn o bryd. Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn ceisio trio codi ymwybyddiaeth am y broblem a gofyn i’r ddwy Lywodraeth weithredu. Nodwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddod o hyd i atebion o fewn eu gallu ac i weithredu. Amlygwyd fod y cynllun hwn yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai a'i fod yn enghraifft o beth mae’r adran yn ceisio ei wneud i gynorthwyo trigolion. Mynegwyd pleser o gyflwyno'r cynllun gan ei fod yn bositif ac arloesol ac yn dod o hyd i ffyrdd i gartrefu trigolion.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo fod y cynllun yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai.  Amlygwyd pwrpas y cynllun o brynu cant o dai i’w uwchraddio a’i gosod i’w trigolion. Nodwyd fod y buddsoddiad i’r Cynllun Gweithredu Tai oddeutu £77m a nodwyd y cyfuniad o ffynonellau ariannu. Mynegwyd fod y Cabinet wedi amlygu eu huchelgais ar gyfer y cynllun drwy nodi eu hawydd i  gynllun benthyca ar gyfer y cynllun hwn yn unol â chynllun busnes cadarn. Nodwyd fod yr adroddiad yn nodi’r costau a'i ddull ariannu ac yn dangos ei fod yn  gynllun hyfyw. Esboniwyd fod risgiau yn cael eu hamlygu ond y bydd achos busnes i bob pryniant unigol yn lleihau’r risgiau, ac os bydd risgiau yn rhy uchel ni fydd y pryniant unigol yn cael ei wneud. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Diolchwyd am yr adroddiad a amlygwyd balchder o droi’r cloc yn ôl a’r Cyngor yn buddsoddi unwaith eto ar dai i bobl Gwynedd. Holwyd os oes gwahaniaeth rhwng tai ar y farchnad agored a cyn dai cymdeithasol. Mynegwyd ei bod yn anodd prynu cyn dai cymdeithasol ac felly angen bod yn weithredol i gael tai cymdeithasol yn ôl o fewn y Cyngor.

¾     Croesawyd y cynllun gan holi os y bydd modd teilwra y cynllun ar gyfer teuluoedd penodol . Nodwyd fod angen am dai rhent o fewn y sir ac fod angen rhoi amrediad o dai  gyfarch rhai sydd angen cymorth ond bydd yn rhaiod blaenoriaethu yn amlwg.

¾     Holwyd os y bydd y cynllun yn llwyddiant os y bydd modd ehangu a prynu mwy na 100 o dai. Mynegwyd fod modd ehangu y cynllun os yn gweithio yn rhwydd ac y byddant yn dod yn ôl at y Cabinet i nodi os bydd achos dros newid i nifer y tai.

¾     Pwysleisiwyd fod elfen o risg i’r cynllun, ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8

Awdur: Dafydd Gibbard