skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet (eitem 6)

6 CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad sef fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 Llywodraeth Cymru yn unol â’r adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod dau gynllun wedi bod cyn y  cynllun hwn yn cefnogi cludiant cyhoeddus drwy sicrhau cefnogaeth ariannol ddigonol drwy’r cyfnod argyfwng. Amlygwyd fod y cynllun yn bartneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr. Nodwyd fod y cynllun yn sicrhau fod cefnogaeth ariannol ddigonol a’r gweithredwyr ac amlygwyd yr amcanion oedd i’w gweld yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd ei fod yn gynllun dros dro a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2022 a'i fod yn rhoi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru o ran blaenoriaethu gwasanaethau ac i ddylanwadu ar bris tocynnau. Amlygwyd fod y cynllun yn bellgyrhaeddol.

 

Mynegwyd ei bod yn gyfnod o lawer o newid gyda’r ail ddylunio ar draws y wlad ac amlygwyd pwysigrwydd i fod yn rhan o’r cynllun er mwyn  dylanwadu i sicrhau gwasanaethau penodol yn y gwasanaethau gwledig sydd i’w gweld dros y sir a fydd i’w weld yn fwy o sialens yng Ngwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Holwyd os oedd ymrwymo i’r cynllun dros dro yn ymrwymo'r Cyngor i’r cynllun ymhellach. Nodwyd fod nifer o ffrydiau gwaith ac y buasai ymuno yn sicrhau fod ffrydiau yn symud yn ei blaen, gan amlygu fod cyd gyswllt a dim ond drwy ymrwymo y bydd modd dylanwadu.

¾     Mynegwyd fod yr argymhelliad yn nodi ymuno er mwyn dylanwadu, holwyd beth oedd yr oblygiadau am beidio ymuno. Mynegwyd nad oedd yn cwbl amlwg ar hyn o bryd ond nodwyd mai'r cwmnïau fuasai ar ardrawiad mwyaf ond pwysleisiwyd yr angen i gael dylanwadu.

¾     Nodwyd fod rôl gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif ffrydiau ond amlygwyd yr angen am y rôl yn lleol i edrych ar ôl trigolion Gwynedd. Ymhelaethwyd yn ogystal fod llawer  o arbenigedd yn lleol. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y gwaith a wnaed gennym ar werth cymdeithasol wrth flaenoriaethu cludiant. Esboniwyd yr angen am fwy o reolaeth ac yr arbenigedd lleol.

¾     Amlygwyd rhai pryderon am roi mwy o rym i Trafnidiaeth Cymru ym maes bysus ac y gallai hynny fod yn llesteirio democratiaeth lleol unwaith eto os nad oeddem yn ofalus..

¾     Pwysleisiwyd fod yr Aelod Cabinet yn rhan o Is Grŵp Drafnidiaeth Gogledd Cymru a bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn brysur ofnadwy yn y maes. Mynegwyd er bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyn gael ei weld dros Gymru gyfan ond nid oes capasiti ganddynt i edrych ar Gymru gyfan ac felly mae disgwyliad am gefnogaeth yn lleol.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams