Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADOLYGIAD PARCIO pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNIAD

 

  • Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad hwyr yma.

 

  • Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn eitem sydd wedi cael ei drafod ers amser ond o ganlyniad i’r pandemig ei fod wedi ei ddal yn ôl. Mynegwyd nad yw polisïau Cyngor  heb newid ers rhai blynyddoedd a bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwneud penderfyniad i greu tasglu i edrych ar drefniadau’r sir. Amlygwyd mai ffrwyth gwaith y tasglu hwn yw’r adroddiad.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Amgylchedd fod y strategaeth bresennol wedi ei fabwysiadau yn ôl yn 2015. Esboniwyd fod nifer o bethau newid ers hynny megis cynnydd mewn cerbydau trydan, llai o ddefnydd o arian parod ynghyd a chynnydd mewn nifer ddigwyddiadau awyr agored. Tynnwyd sylw yn ogystal at y cynnydd a welwyd yn ystod yr haf y llynedd mewn nifer o “motor homes”. Pwysleisiwyd fod y rhain wedi amlygu mwy o heriau o ran parcio.

 

Mynegwyd fod y Cabinet a’r Cyngor Llawn wedi cytuno i gynyddu incwm yn maes fel rhan o’r cynllun arbedion. Amlygwyd gyda chynnydd mewn chwyddiant ynghyd a’r targed arbedion y bydd angen cynnydd incwm o tua £400k. Esboniwyd mai briff grŵp tasg oedd ceisio cyfarch y cynnydd mewn incwm ond cadw’r effaith ar drigolion lleol i isafswm. Pwysleisiwyd fod y gwaith a wnaethpwyd gan y Grŵp Tasg wedi bod yn hynod drylwyr.

 

Amlygwyd fod y grŵp tasg wedi amlygu fod y drefn bandio meysydd parcio yn rhy gymhleth a'i fod wedi ei symleiddio o fod yn 5 band i 3.  Nodwyd y buasai’r grŵp tasg wedi gallu codi pris 10% ar draws yr holl leoliad ond fod y grŵp tasg wedi penderfynu edrych ar y maes yn wahanol ac amlinellwyd y prif newidiadau.  Nodwyd yr angen i  sicrhau fod pris parcio arhosiad byr yn y prif ganolfannau yn aros yr un fath, ond fod yr oriau rheolaeth yn cael ei addasu ym Mangor i 9am tan 5pm. Mynegwyd fod pris arhosiad hir yn cael ei gynyddu yn benodol mewn ffioedd meysydd parcio yn band 2 a bod cynnydd mewn tocynnau tymor yn cydfynd gyda chwyddiant.

 

Amlygwyd yr opsiynau am barcio dros gyfnod y Nadolig ac yr awydd i gadw trefniadau parcio am ddim er mwyn cefnogi busnesau. Nodwyd y bu ystyriaeth i breswylwyr ac unigolion a Thocyn Parcio Glas a bod penderfyniad i’w gadw fel ac y mae  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7

Awdur: Dafydd Wyn Williams