7 YMGYNGHORIAD OMBWDSMAN GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 307 KB
I adrodd ar
ymgynghoriad i god ymddygiad i Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad.
COFNODION:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Monitro gan nodi bod yr Ombwdsman yn ymgynghori ar ganllawiau drafft newydd ar
y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned.
Nodwyd bod y ddogfen yn un ar
gyfer esbonio’r cod i aelodau mewn modd dealladwy ag er mwyn sicrhau gwell
dealltwriaeth ymysg aelodau o hyn sy’n gynwysedig.
Tynnwyd
sylw at y prif agweddau o gorff yr adroddiad ac yn dilyn hynny gofynnwyd i
aelodau’r pwyllgor am eu sylwadau. Ategwyd mai’r prif bwyntiau i’w hystyried yw
pa mor ddefnyddiol ydy’r ddogfen ar gyfer eu cynorthwyo hwy yn bersonol i
ddeall gofynion y cod ymddygiad ac a yw’r ddogfen o ddefnydd iddynt fel
aelodau.
Eglurwyd
y byddai’r sylwadau ar yr ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Safonau
ar yr 22ain o Chwefror, 2021.
Yn
ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:
-
Nodwyd nad oedd y ddogfen yn trafod unrhyw gosbau posib a fydd yn disgyn
ar aelodau petaent yn torri’r cod ymddygiad.
-
Rhoddwyd y sylw bod y cod ymddygiad yn pwysleisio rhagdybiaeth bod angen
i gynghorwyr fod yn groendew ag i dderbyn y byddwch yn agored i feirniadaeth
bersonol.
-
Ategwyd at hyn gan ofyn lle mae’r ffin i’r feirniadaeth oherwydd gall
hynny rhwystro pobl rhag sefyll fel cynghorwyr.
-
Rhoddwyd sylw nad yw’r cod ymddygiad yn sôn am glercod cynghorau cymuned
a nodwyd y gallai fod yn destun pryder ynghylch dyletswyddau’r clercod i
ddatgan buddiannau lle bo’n briodol.
Cafwyd
yr ymatebion isod i’r sylwadau, gan y Swyddog Monitro:
-
Nodwyd ei fod yn anodd adnabod ble mae’r ffin ynghylch beirniadaeth,
fodd bynnag beirniadaeth wleidyddol yn unig sydd yn dderbyniol a difrïo
personol yn annerbyniol.
-
Mewn ymateb i’r pryder ynghylch clercod cymuned, nodwyd bod ganddynt god ymddygiad uniongyrchol sef cod ymddygiad swyddogion
statudol. Ategwyd bod y rheolau yn wahanol ond caiff ei weithredu yn yr un modd
a chod ymddygiad aelodau etholedig.