skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/02/2021 - Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth (eitem 7)

7 YMGYNGHORIAD OMBWDSMAN GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 307 KB

I adrodd ar ymgynghoriad i god ymddygiad i Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro gan nodi bod yr Ombwdsman yn ymgynghori ar ganllawiau drafft newydd ar y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Nodwyd bod y ddogfen yn un ar gyfer esbonio’r cod i aelodau mewn modd dealladwy ag er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth ymysg aelodau o hyn sy’n gynwysedig.

Tynnwyd sylw at y prif agweddau o gorff yr adroddiad ac yn dilyn hynny gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor am eu sylwadau. Ategwyd mai’r prif bwyntiau i’w hystyried yw pa mor ddefnyddiol ydy’r ddogfen ar gyfer eu cynorthwyo hwy yn bersonol i ddeall gofynion y cod ymddygiad ac a yw’r ddogfen o ddefnydd iddynt fel aelodau.

 

Eglurwyd y byddai’r sylwadau ar yr ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ar yr 22ain o Chwefror, 2021.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:

 

-       Nodwyd nad oedd y ddogfen yn trafod unrhyw gosbau posib a fydd yn disgyn ar aelodau petaent yn torri’r cod ymddygiad.

-       Rhoddwyd y sylw bod y cod ymddygiad yn pwysleisio rhagdybiaeth bod angen i gynghorwyr fod yn groendew ag i dderbyn y byddwch yn agored i feirniadaeth bersonol.

-       Ategwyd at hyn gan ofyn lle mae’r ffin i’r feirniadaeth oherwydd gall hynny rhwystro pobl rhag sefyll fel cynghorwyr.

-       Rhoddwyd sylw nad yw’r cod ymddygiad yn sôn am glercod cynghorau cymuned a nodwyd y gallai fod yn destun pryder ynghylch dyletswyddau’r clercod i ddatgan buddiannau lle bo’n briodol.

 

Cafwyd yr ymatebion isod i’r sylwadau, gan y Swyddog Monitro:

 

-       Nodwyd ei fod yn anodd adnabod ble mae’r ffin ynghylch beirniadaeth, fodd bynnag beirniadaeth wleidyddol yn unig sydd yn dderbyniol a difrïo personol yn annerbyniol.

-       Mewn ymateb i’r pryder ynghylch clercod cymuned, nodwyd bod ganddynt god ymddygiad uniongyrchol sef cod ymddygiad swyddogion statudol. Ategwyd bod y rheolau yn wahanol ond caiff ei weithredu yn yr un modd a chod ymddygiad aelodau etholedig.