Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet (eitem 12)

12 PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR pdf eicon PDF 653 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor. Nodwyd fod y Cyngor wedi gofyn i’r Cabinet gynnal ymgynghoriad ar y priodoldeb o gynyddu'r lefel i hyd ar 100% yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 

Mynegwyd yn ôl Deddf 1992 fod rhaid gwneud unrhyw benderfyniad ar y Premiwm gan y Cyngor llawn cyn dechrau’r flwyddyn ariannol berthnasol ac felly nad oedd modd oedi’r penderfyniad. Amlygwyd y cyd-destun gan amlygu rheoliadau’r Dreth Cyngor ble mae ‘ail gartrefi’ wedi’u categoreiddio i ddau ddosbarth (A & B) ac fod dosbarth C yn cyfeirio at eiddo gwag. Adroddwyd ar y niferoedd o fewn Gwynedd – 811 o fewn dosbarth A, 4,718 o fewn Dosbarth B, a 1,130 yn y dosbarth C yn Nhachwedd 2020.

 

Nodwyd wrth roi grym i gynghorau i godi Premiwm o hyd at 100% fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm. Ategwyd fod y canllaw yn amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried gan y Cyngor pan yn bwriadau cyflwyno’r Premiwm.  Nodwyd wrth gyflwyno’r Premiwm yn ôl yn 2016 rhoddwyd sylw i ddau astudiaeth, dadansoddiad manwl a gynhaliwyd yn 2013, ynghyd â’r Strategaeth Dai 2013-16. Nodwyd fod y Cyngor wedi mabwysiadau Strategaeth Dai newydd, ynghyd â dau adroddiad allweddol Gwaith Ymchwil Tai Gwyliau a’r Cynllun Gweithredu Tai, yn y cyfnod ers hynny.

 

Amlinellwyd yr ymatebion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad, gan nodi fod yr ymgynghoriad wedi ei amlygu ar wefannau cymdeithasol ynghyd ag anfon llythyr at bob perchennog ail gartref ac eiddo gwag hirdymor yn eu hysbysu o’r ymgynghoriad. Derbyniwyd 6,227 o ymatebion i’r holiadur ac oddeutu 100 o lythyrau a negeseuon ar wahân. Mynegwyd o’r ymatebion fod 41% yn nodi nad oeddent yn berchen ail gartref, 53% yn nodi eu bod yn berchen ail gartref.

 

Nodwyd fod bron i 4 o bob 5 o’r ymatebwyr sydd yn berchen ail gartref yn credu eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn lleol, tra fod 3 o bob 5 o’r ymatebion sydd dim yn berchen ail gartref yn meddwl eu bod yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Amlygwyd fod gwahaniaeth barn glir yn cael ei amlygu gyda’r cwestiwn os yw cynyddu’r lefel yn briodol, gyda 61% o’r rhai oedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12

Awdur: Dewi Morgan