7 DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR PDF 289 KB
Cyflwyno adroddiad Rheolwr
yr Harbwr
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau sydd wedi eu manylu yn y cofnodion.
COFNODION:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a’r Rheolwr
Harbwr am y cyfnod Hydref 2019 i Fawrth 2021, a nodwyd y prif bwyntiau
canlynol:
· Llithrfa Harbwr Allanol
Nodwyd bod angen datrys y mater defnydd o’r llithrfa a’r
brydles rheoli tir, ar fyrder.
Cadarnhawyd bod cyfeiriad yn y brydles at y trefniadau a bod
trafodaethau ar y gweill gyda’r Aelod Lleol, y Cadeirydd a’r Gwasanaeth a
chytunwyd i adrodd yn ôl i Ifor Hughes er mwyn ei gadw yn y darlun.
· Rheolau Cyfansoddiad y Pwyllgor
Atgoffwyd y cynrychiolwyr bod gofyn iddynt gyflwyno
cofnodion eu pwyllgorau i’r Pwyllgor hwn, ynghyd a chopi o’r cyfansoddiad. Mae
derbyn y wybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y Mudiad ar y Pwyllgor.
· Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
Mae dau archwiliad wedi ei gynnal gan Wylwyr y Glannau a
bu iddynt gadarnhau bod popeth mewn trefn a bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda
gofynion y Cod Diogelwch. Cadarnhawyd
hefyd bod gwaith archwilio rhithiol wedi ei wneud gan Harbwr Feistr Conwy a’i
fod yntau fel y Person Dynodedig yn fodlon gyda safon y Cod yng Ngwynedd. Nodwyd y bydd hyn yn cael ei adrodd i’r
Cabinet maes o law. Atgoffwyd pawb am yr
angen i adrodd, yn y Pwyllgor hwn, am unrhyw bryder diogelwch.
· Carthu
Nodwyd rhwystredigaeth am y sefyllfa carthu yn sgil materion
Covid. Adroddwyd mai cwmni Royal
Smalls bydd yn gwneud y gwaith ym Mhwllheli,
gan ddilyn yr un cytundeb gwaith a’r cytundeb yn Doc Victoria.
Cadarnhawyd bod yr amserlen wedi llithro, yn bennaf oherwydd nad oedd Royal Smalls yn gallu caniatáu
i’w staff deithio yn sgil y cyfyngiadau Covid. Nodwyd y gobaith y bydd y gwaith yn cychwyn
Medi 2021, tra bydd y gwaith carthu ceg yr harbwr yn cychwyn Ebrill 2021 drwy y
cytundeb sydd yn rhedeg o bosib am dair blynedd.
· Arolwg Hydrograffeg
Adroddwyd bod dyfnder dwr basn y marina yn weddol dda er
ei fod yn llai dwfn ar geg yr harbwr.
Nodwyd y bydd y gwaith ar garthu ceg yr harbwr wedi darfod cyn y gwaith
yn y sianel fordwyo. Cadarnhawyd bod yr
£270,000 ar gyfer y gwaith wedi ei rannu i 2/3 i Bwllheli
ac 1/3 i Doc Victoria, gyda rhan helaeth o’r budd ym Mhwllheli. Nodwyd siom nad oedd y gwaith yn mynd yn ei
flaen a’r pryder ynglŷn â’r siawns o golli dyfnder yn y sianel a
chwestiynwyd tybed a oes cynllun arall megis lefelu gwely’r môr ar gyfer y
tymor? Cadarnhawyd y bydd carthu ceg yr
harbwr yn mynd yn ei flaen ac fe fydd hefyd gwaith lefelu y sianel fordwyo yn
cychwyn yn fuan. Yn ychwanegol nodwyd
yr angen i ystyried a phwyso a mesur
lefel gwely’r môr gan gymharu lefel gwely’r môr gyda lefel yn y sianel fordwyo.
Er bod dymuniad i ail-edrych a gweld beth ellir ei wneud, cadarnhawyd bo
problemau gydag argaeledd cytundebwyr, ond eto cytunwyd y byddai y swyddog
priodol yn ail-ymweld i weld beth sydd yn bosib.
· Mordwyo
Cytunwyd i ystyried beth ellir ei wneud o ran ... view the full COFNODION text for item 7