9 CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018-23 - ADOLYGIAD 2021-22 PDF 333 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad
2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad
2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac
argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4
Mawrth 2021.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y cynllun yn cael ei gyflwyno yn nodi gwaith y Cyngor
dros y flwyddyn diwethaf. Nodwyd fod sesiynau wedi ei cynnal gyda’r holl
aelodau sydd wedi dangos cefnogaeth i’r blaenoriaethau gwella. Mynegwyd fod y sesiynau gyda’r holl aelodau
wedi amlygu fod edrychiad cymunedau yn holl bwysig eleni i drigolion.
Pwysleisiwyd fod
elfennau positif wedi codi o ganlyniad i covid-19 sef awydd trigolion i
gynorthwyo eu gilydd ac i wirfoddoli. Nodwyd angen gan aelodau i gadw’r
momentwm o gynorthwyo a gwirfoddol i’r dyfodol.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Pwysleisiwyd
fod edrych ar eich milltir sgwâr yn hynod bwysig ac fod y cynllun Cymunedau
Glan a Thaclus yn un o flaenoriaethau yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol.
Nodwyd gobeithio y bydd y cynllun yn cyfarch anghenion yr aelodau ac yn
gweithio gyda’r cymunedau.
¾
Amlygwyd
o ran blaenoriaeth 4.5 Busnesau yn Ffynnu fod problemau erchyll yn codi ond nid
o ganlyniad i Covid-19 yn unig ond am y modd y mae’r Llywodraeth yn delio gyda Brecsit yn ogystal.
¾
Nodwyd
fod y sesiynau gyda’r aelodau wedi bod yn galonogol, gyda materion a godwyd yn
cael ei gweld o fewn cynlluniau megis Cynllun Adfywio Ardal.
¾
Tynnwyd
sylw at addasiadau i’w nodi yn blaenoriaeth 4.4
Trosglwyddiad unedau gwyliau o’r Dreth Gyngor i Drethi Busnes er
mwyn ychwanegu geiriad yn ymwneud a’r gwaith cynllunio sydd yn digwydd yn y
maes. Yn ogystal Blaenoriaeth 7.4 – Cyflawni Arbedion er mwyn amlygu fod y
rhaglen arbedion wedi’i adolygu a’r angen i gyflawni’r trefn ddiwygiedig.
Awdur: Dewi Wyn Jones